Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin

Ble ca i brynu tocynnau?

Mae tocynnau ar gyfer Parti Haf y 90au RhCT wedi GWERTHU ALLAN.

Ble ydw i'n cael mynediad i fy nghocynnau?

Bydd e-docynnau'n cael eu hanfon drwy e-bost i'r cyfrif a gafodd ei ddefnyddio i'w prynu.

Oes hawl gyda fi i ddod â bwyd i ardal yr achlysur?

Nac oes, does dim hawl gyda chi i ddod â bwyd na diod i ardal yr achlysur. Bydd amrywiaeth o werthwyr bwyd yn ardal yr achlysur, a bydd modd i chi brynu bwyd a diod oddi wrthyn nhw.

Os oes tocyn gyda chi, bydd modd i chi fwyta ac yfed eich bwyd a'ch diod eich hunain wrth giwio ar y llwybr dynodedig ym Mharc Coffa Ynysangharad cyn mynd i mewn i ardal yr achlysur.

Ga i ddod â fy nŵr fy hun i mewn i'r digwyddiad?

Gallwch ddod ag un botel 500ml o ddŵr wedi'i selio i mewn i'r digwyddiad. Bydd gorsaf ail-lenwi dŵr y tu mewn.

Ga i ddod â fy alcohol/diodydd fy hun?

NA CHEWCH. Bydd modd i chi brynu alcohol a bwyd a diod oddi wrth y bariau a'r gwerthwyr bwyd a diod yn ardal yr achlysur.  Bydd Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar waith sy'n cwmpasu Parc Coffa Ynysangharad. Mae hyn yn golygu ei bod yn drosedd yfed alcohol y tu allan i safle trwyddedig yr achlysur.

Oes gofyniad oedran i ddod i'r achlysur?

Gall bobl o unrhyw oedran ddod (cyn belled â bod gyda nhw docyn) ond rydyn ni'n gofyn i blant dan 16 oed fod yng nghwmni rhieni/gwarcheidwaid dros 21 oed.

Oes angen tocynnau ar blant?

Oes, bydd angen tocynnau ar bawb sy'n dod i'r achlysur.

Faint o'r gloch fydd y gatiau'n agor?

Bydd y gatiau'n agor am 3pm. Mae disgwyl i'r achlysur ddechrau am 4pm.

Pa gatiau ydw i'n eu defnyddio i ddod i mewn i'r parc?

Bydd modd dod i fewn dros bont Llys Cadwyn a phont Marks & Spencer.

Pryd bydd y parc ar gau ar ddiwrnod yr achlysur?

Bydd y parc ar gau i'r cyhoedd o 12pm ar ddiwrnod yr achlysur.

Ga i adael ardal yr achlysur ac yna dychwelyd iddi?

NA CHEWCH. Mae polisi 'dim dychwelyd' gyda ni. Ar ôl sganio'ch tocyn wrth ddod i mewn, fydd dim hawl gyda chi i adael ardal yr achlysur ac yna dychwelyd iddi.

Ble ca i barcio?

Rydyn ni'n annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac mae rhwydwaith trên a bysiau da yn gwasanaethu Pontypridd. Mae rhagor o fanylion am y rhain yma www.trc.cymru neu Traveline Cymru - Journey Planning Wales

Mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor o fewn pellter cerdded i Barc Coffa Ynysangharad. Mae rhagor o fanylion am y rhain yma: www.rctcbc.gov.uk

Oes mannau parcio i'r anabl ar gael ym Mharc Coffa Ynysangharad?

NAC OES, does dim parcio ar gael ym Mharc Coffa Ynysangharad. Mae nifer o gilfachau parcio dynodedig ar gyfer deiliaid bathodyn glas ar gael ym mhob un o feysydd parcio'r Cyngor. Mae rhagor o fanylion am y rhain ar gael drwy'r ddolen uchod.

Pryd bydd yr achlysur yn gorffen?

Mae disgwyl i'r achlysur orffen am 10:30pm.

Ga i fynd â chadeiriau/dodrefn i mewn i ardal yr achlysur?

NA CHEWCH. Does dim hawl mynd â chadeiriau na dodrefn i mewn i ardal yr achlysur.

Fydd toiledau ar gael yno?

Bydd toiledau ar gael yn ardal yr achlysur.

Beth yw cod post y parc ar gyfer y teclyn llywio â lloeren?

Y cod post yw CF37 4PE. Bydd hyn yn mynd â chi i Barc Coffa Ynysangharad. Sylwch, does dim parcio ar gael yno. Mae modd dod o hyd i restr o feysydd parcio cyfagos yma: www.rctcbc.gov.uk

Ble ca i aros?

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o lefydd i aros yn yr ardal: www.visitrct.wales

Fydd ardal arbennig i mi wylio'r perfformiad o'm cadair olwynion?

Bydd ardal wylio arbennig ar gael i'r sawl sydd mewn cadeiriau olwynion. Mae lle yn gyfyngedig yn yr ardal yma a fydd DIM modd cadw lle ymlaen llaw. Y cyntaf i'r felin fydd hi o ran y lleoedd sydd ar gael ar y diwrnod. Sylwch, ar gyfer pob cadair olwynion, dim ond un lle fydd yn cael ei glustnodi ar gyfer person arall sy'n gwmni (bydd sedd yn cael ei darparu ar gyfer y person yma sy'n rhoi'r gofal).

Fydd cyfle i mi gwrdd â'r perfformwyr?

Mae galw mawr am hyn, ond fydd dim cyfle i chi gwrdd â'r perfformwyr (yn rhad ac am ddim neu drwy dalu) trwyddon ni ar y diwrnod. Bydd cyfleoedd posibl i gwrdd â pherfformwyr yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalen Facebook a'n Instagram.

 phwy ddylwn i gysylltu os bydda i'n colli eiddo yn yr achlysur?


Os byddwch chi'n colli rhywbeth ar y diwrnod, ewch i babell felen 'What's On' a gofyn i aelod o staff a oes eiddo coll wedi cael ei adael yno.

Os byddwch chi'n sylweddoli ar ôl yr achlysur eich bod chi wedi colli rhywbeth, anfonwch e-bost at Adran Achlysuron y Cyngor ar achlysuron@rctcbc.gov.uk.

Fyddwn ni ddim yn anfon unrhyw eitemau drwy'r post a bydd angen i chi eu casglu eich hunain. Sylwch, efallai bydd angen dogfennau adnabod arnoch chi.

Os byddwch chi'n dod o hyd i eiddo coll yn ystod yr achlysur, ewch ag ef i aelod o staff ym mhabell felen 'What's On'.

Beth sy'n digwydd os bydd hi'n bwrw glaw?

Achlysur awyr agored yw hwn, felly dewch yn barod am bob math o dywydd. Bydd yr achlysur yn mynd rhagddo boed law neu hindda.

Beth nad oes hawl i mi ddod ag ef i'r achlysur?

DOES DIM hawl dod â chamerâu proffesiynol, dronau na chyfarpar recordio i ardal yr achlysur.

DOES DIM hawl dod â photeli, caniau, cynwysyddion, alcohol na bwyd i ardal yr achlysur. Sylwch fod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) sydd ar waith ym Mhontypridd yn ei gwneud yn drosedd yfed alcohol mewn safle heb drwydded (ar y stryd neu mewn man cyhoeddus).

Does dim hawl dod â thân gwyllt, caniau mwg, polion baneri, ymbarelau, offer picnic, barbeciws nac eitemau tebyg i ardal yr achlysur.

Does dim hawl dod ag aerosolau, cyffuriau nac eitemau sy'n gysylltiedig â chyffuriau i ardal yr achlysur.

Bydd bagiau'n cael eu harchwilio ger mynediad ardal yr achlysur.

Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr. Cyfeiriwch at delerau ac amodau gwerthu tocynnau'r achlysur.

Tudalennau Perthnasol