Gwybodaeth am leoliadau meysydd parcio yn Rhondda Cynon Taf, faint mae'n costio, sut i wneud cais am docyn tymor, trefniadau parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas, cerbydau trydan a beicwyr modur, a beth i'w wneud os bydd eich cerbyd yn cael ei gloi mewn maes parcio'r Cyngor.
Ble galla i barcio?
Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r arwyddion ym mhob maes parcio. Bydd yr arwyddion yn nodi:
- Am ba mor hir mae modd i chi barcio
- Costau parcio
- Unrhyw gyfyngiadau sydd ar waith
Mae cyfleusterau parcio ar gael yn:
- Aberdâr
- Aberpennar (parcio am ddim)
- Pontypridd
- Porth (parcio am ddim)
- Tonypandy (parcio am ddim)
Opsiynau Parcio
Aros cyfyngedig
- Parcio am ddim rhwng 1 a 2 awr
- Gwiriwch hyd y cyfnod y cewch chi barcio ar yr arwyddion
Arhosiad byr
- Parcio am hyd at 4 awr.
- Cyfyngiadau o ran pa mor hir y mae modd parcio ar waith.
Arhosiad hir
- Parcio am fwy na 4 awr.
- Addas ar gyfer parcio drwy'r dydd.
- Dydd Sadwrn yn unig - £1 cyn 10am a pharcio am ddim ar ôl 10am
Aberdâr
| Maes parcio | Math | Oriau agor |
|
Maes Parcio Adeiladau'r Goron
|
Arhosiad hir
|
24 awr
|
|
Maes Parcio'r Llyfrgell
|
Arhosiad byr
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Y Stryd Las
|
Arhosiad byr
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Pwll Glo'r Gadlys
|
Arhosiad hir (trwyddedau yn unig)
|
Rhwng 7am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio gwyliau banc)
|
|
Maes Parcio Stryd y Dug
|
Arhosiad byr
|
24 awr
|
|
Maes Parcio'r Stryd Fawr
|
Arhosiad byr
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Rhes y Nant
|
Arhosiad hir
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Rock Grounds
|
Arhosiad hir
|
24 awr
|
|
Maes Parcio'r Ynys
|
Arhosiad hir
|
24 awr
|
Aberpennar (parcio am ddim)
| Maes parcio | Math | Oriau agor |
|
Maes Parcio Stryd Henry – Gogledd
|
Arhosiad byr
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Stryd Henry – De
|
Arhosiad hir
|
24 awr
|
Pontypridd
| Maes parcio | Math | Oriau agor |
|
Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy
|
Arhosiad byr
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Iard Nwyddau
|
Arhosiad hir
|
24 awr – Mae cilfachau parcio Cyngor Rhondda Cynon Taf i'w gweld yn glir gyda marciau glas yn rhan is Maes Parcio Iard Nwyddau ar bwys ac y tu ôl i'r Ganolfan Bowls.
|
|
Maes Parcio Millfield
|
Arhosiad hir
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Heol Sardis
|
Arhosiad hir
|
Rhwng 7am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio gwyliau banc)
|
|
Maes Parcio Stryd y Santes Catrin
|
Arhosiad hir
|
Rhwng 7am a 7pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac eithrio gwyliau banc)
Cymerwch docyn wrth fynd i mewn i'r maes parcio. Talwch wrth y peiriannau talu ger y lefel mynediad i gerddwyr ar Stryd y Felin cyn dychwelyd i'ch cerbyd.
|
Porth (parcio am ddim)
| Maes parcio | Math | Oriau agor |
|
Maes Parcio Plaza'r Porth
|
Arhosiad hir
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Stryd Hannah
|
Aros cyfyngedig
|
24 awr
|
Tonypandy (parcio am ddim)
| Maes parcio | Math | Oriau agor |
|
Maes Parcio Stryd De Winton
|
Arhosiad hir
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Tonypandy (uchaf)
|
Arhosiad hir
|
Rhwng 7am a 6.45pm
|
|
Maes Parcio Tonypandy (isaf)
|
Arhosiad byr
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Stryd y Bont
|
Aros cyfyngedig
|
24 awr
|
|
Maes Parcio Sgwâr Tonypandy
|
Aros cyfyngedig
|
24 awr
|
Costau parcio
Mae’n bosibl y caiff Hysbysiad Tâl Cosb ei gyflwyno mewn maes parcio sy'n eiddo i'r Cyngor os nad yw cerbyd sydd wedi'i barcio yn cydymffurfio â rheoliadau'r maes parcio.
Talu am barcio
- Mae pob peiriant tocynnau'r Cyngor yn derbyn arian parod a thaliadau â cherdyn.
- Os nad ydych chi'n gallu talu am barcio, rhaid i chi ddod o hyd i barcio amgen.
Meysydd parcio arhosiad byr
| Hyd eich arhosiad | Cost |
|
Hyd at awr
|
£0.80
|
|
Hyd at 4 awr
|
£2.90
|
Meysydd parcio arhosiad hir
| Hyd eich arhosiad | Cost |
|
Hyd at 4 awr
|
£1.90
|
|
Mwy na 4 awr
|
£2.90
|
Tocyn tymor
Os ydych chi'n parcio yn ein meysydd parcio arhosiad hir yn rheolaidd, cewch chi arbed arian gyda thocyn tymor.
- £23 y mis
- £235 y flwyddyn
Dim ond mewn meysydd parcio arhosiad hir y Cyngor y mae tocynnau tymor yn ddilys.
Gwnewch gais am docyn tymor ar-lein
neu ffoniwch Adran y Gwasanaethau Parcio ar 01443 425001.
Parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas
Os oes gyda chi fathodyn glas:
- Cewch chi barcio'n rhad ac am ddim mewn cilfach barcio i bobl anabl wrth arddangos eich bathodyn yn glir. (ac eithrio Maes Parcio Stryd y Santes Catrin)
- Os ydych chi'n parcio mewn cilfach barcio safonol, rhaid i chi dalu'r gost berthnasol am barcio a chael tocyn lle bydd angen.
- Rhaid i ddeiliaid bathodynnau gadw at y rheolau o ran pa mor hir y mae modd aros ym mhob maes parcio.
Gwiriwch arwyddion y maes parcio cyn i chi adael eich cerbyd.
Parcio ar gyfer beiciau modur
- Caiff beiciau modur barcio'n rhad ac am ddim mewn cilfachau penodol i feiciau modur.
- Os ydych chi'n parcio mewn cilfach barcio safonol, rhaid i chi dalu'r gost berthnasol am barcio a chael tocyn lle bydd angen.
Gwiriwch arwyddion y maes parcio cyn i chi adael eich cerbyd.
Mannau gwefru cerbydau trydan
- Rhaid i gerbydau trydan sy'n defnyddio mannau gwefru ym meysydd parcio'r Cyngor ddilyn telerau ac amodau'r maes parcio.
- Mae costau parcio'n berthnasol ar gyfer hyd eich arhosiad tra bod eich cerbyd yn gwefru.
- Dim ond hyn a hyn o gilfachau sydd ar gael felly rhaid i chi symud eich cerbyd unwaith y bydd wedi'i wefru.
I ddod o hyd i faes parcio gyda chyfleusterau gwefru cerbydau trydan, ewch i dudalen we Mannau Gwefru Cerbydau Trydan
Gwiriwch arwyddion y maes parcio cyn i chi adael eich cerbyd.
Problem gyda'r peiriant tocynnau
- Cysylltwch â'r Cyngor trwy ffonio'r rhif ffôn sydd wedi'i nodi ar y bwrdd costau.
- Dydy peiriant tocynnau diffygiol ddim yn rheswm dilys dros beidio â thalu am barcio.
- Mae'n bosibl y byddwch chi'n derbyn Hysbysiad Tâl Cosb os nad ydych chi'n talu am barcio.
Cerbyd wedi'i gloi mewn maes parcio
Mae rhai meysydd parcio'r Cyngor yn cael eu cloi y tu allan i'w horiau agor.
Os bydd angen rhyddhau'ch cerbyd o faes parcio dan glo, byddwn ni'n codi ffi rhyddhau £50 (gan gynnwys TAW).
Mae gwybodaeth ynglŷn â'r ffi yma i'w gweld ger allanfeydd y meysydd parcio dan sylw.
Rhif ffôn: 01443 425005