Skip to main content

Be' sy' 'mlaen?

Mae yna lawer i'w weld, i'w wneud ac i'w FWYTA yn y Cegaid o Fwyd Cymru! 

Bwyd, bwyd, bwyd!

O nachos wedi'u llwytho i bwdinau blasus, mae rhywbeth at ddant[IC1]  pawb. Ewch draw i'r pentref bwyd a diod am amrywiaeth o fwyd stryd a danteithion traddodiadol. Mae cynigion fegan a di-glwten hefyd ar y fwydlen.

Arddangosiadau coginio byw

Mae rhywbeth ar y fwydlen i bawb wrth i ni groesawu'r cogydd preswyl Geoff Tookey yn ôl i Gegaid o Fwyd Cymru, a fydd yn coginio storm gyda ryseitiau hawdd a fforddiadwy y gallwch eu gwneud gartref.

Hefyd yn ymuno â ni eleni rydym yn croesawu Food For Thought UK, sy’n gobeithio y bydd eu coginio cynaliadwy a fegan yn  eich ysbrydoli i feddwl cyn i chi goginio.

A thrwy gyfnewid y cae rygbi am yr hob coginio rydym yn croesawu seren Rygbi Cymru a chystadleuydd Celebrity Master Chef Alun Wyn Jones! Yn ymddangos ddydd Sul 2 Awst, bydd Alun Wyn Jones yn mynd i'r gegin am arddangosiad coginio gwirioneddol unigryw.

Gardd gwrw

Mwynhewch yr awyrgylch yn ein gardd gwrw drwyddedig sy'n cynnwys seidr, jin, cwrw, lager a choctels wedi'u gwneud â llaw ac wedi'u bragu'n lleol. Mwynhewch ddiod ar y safle yn yr ardal ddynodedig hon neu prynwch unedau wedi'u selio i'w cymryd adref a'u mwynhau!

Stondinau crefft a gwybodaeth

O anrhegion hardd wedi'u gwneud â llaw i grefftau unigryw a rhyfedd, mae rhywbeth i bawb yn ein pentref crefftau. Yma, fe welwch chi hefyd amrywiaeth o wasanaethau elusennol, gwybodaeth a chymorth o gymorth i fwyta'n iach, i sut allwch chi gymryd rhan mewn sefydliadau cymunedol yn eich ardal chi.

Adloniant stryd

Cadwch lygad drwy gydol y penwythnos am ein cogyddion talach na bywyd a'n gwneuthurwyr direidi yn crwydro safle'r ŵyl. Peidiwch ag anghofio tynnu llun gyda'r cogydd enfawr sy'n cerdded ar stilts!

Holl hwyl y ffair

Daliwch ati'n dynn wrth i chi fynd ar y cwpanau te neu chwipio o gwmpas ar y trên gwyllt[IC2] . Cyn i chi lenwi â'r holl fwyd, ceisiwch weld pa mor uchel allwch chi fownsio ar y trampolinau! Mae Ffair Hwyl Cegaid o Fwyd Cymru bob amser yn ffefryn!

A mwy…

Ewch draw i'n hardal arena am fwy o adloniant AM DDIM gan Birds of Prey, Scurry Dogs, grwpiau dawns stryd lleol a ffefryn yr ŵyl Jonny Russel am ddau ddiwrnod o adloniant teuluol.

Ar ddydd Sul 2 Awst, bydd y Bandstand hefyd yn cynnal Gŵyl Jazz Pontypridd, yn dilyn wythnos o gerddoriaeth fyw ym Mhontypridd a'r cyffiniau.

Mae hyn i gyd yn creu penwythnos blasus o hwyl i deuluoedd yng nghyffiniau prydferth Parc Coffa  Ynysangharad, Pontypridd. Mae Cegaid o Fwyd Cymru yn uchafbwynt haf na ddylid ei golli!


 [IC1]‘at ddant…’ bob amser yn un da i’w ddefnyddio pan ti’n disgrifio bwyd

 [IC2]Runaway Train? Falle bod ‘gwyllt’ yn darllen yn haws yn Gymraeg na ‘rhedegog’

 

Dilynwch ni ar Facebook

Dilynwch ni ar Instagram: @besymlaenrhct