Skip to main content

Carfan Lluoedd Arfog Cyngor RhCT

Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cynghorydd Maureen Webber

Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, mae ein carfan Lluoedd Arfog ymroddedig yn sicrhau bod egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael eu rhoi ar waith. Mae ein Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber (Dirprwy Arweinydd y Cyngor), yn gweithio i gynnal nodau’r Cyfamod Cymunedol. Mae’r Cynghorydd Webber yn annog cymunedau lleol i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog, yn codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar gyn-filwyr, ac yn sicrhau nad yw aelodau presennol a chyn-aelodau’r lluoedd arfog dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth milwrol.

E-bost: maureen.webber@rctcbc.gov.uk

LLUN

Swyddog Arweiniol y Lluoedd Arfog, Chris Davies

Mae Chris Davies, Swyddog Arweiniol Lluoedd Arfog y Cyngor, yn hybu ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog yn yr awdurdod lleol. Mae Chris yn cydlynu ymdrechion, yn arwain gweithgorau i roi ymrwymiadau’r Cyfamod ar waith, yn ymgysylltu â phartneriaid y Cyngor, ac yn dylanwadu ar bolisïau i ystyried anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog. Yn ogystal â hynny, mae Chris yn annog busnesau a sefydliadau i gefnogi cyn-filwyr drwy’r Cyfamod Corfforaethol

E-bost: Christopher.S.Davies@rctcbc.gov.uk   

LLUN

Swyddog Ymgysylltu â'r Lluoedd Arfog, Jamie Ireland

Mae Jamie Ireland, Swyddog Ymgysylltu â'r Lluoedd Arfog (AFLO), yn cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys milwyr rheolaidd, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a’u teuluoedd. Mae Jamie yn sicrhau bod yr ymrwymiadau a wnaed yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog yn cael eu rhoi ar waith, gan hyrwyddo triniaeth deg a chymorth i’r rhai sydd wedi gwasanaethu. Mae'r AFLO yn bwynt cyswllt hanfodol rhwng sefydliadau milwrol ac endidau eraill sy'n hwyluso cyfathrebu a chydweithio effeithiol.

E-bost: Jamie.L.Ireland@rctcbc.gov.uk

LLUN