Yn falch o RCT. Yn Falch o'n Cymunedau.
Mae cadw Rhondda Cynon Taf yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar yn rhywbeth y gallwn ni i gyd chwarae rhan ynddo.
Boed yn rhoi sbwriel mewn bin, ailgylchu gartref, codi baw eich ci, rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon neu ymuno ag achlysuron casglu sbwriel lleol, mae pob gweithred yn helpu i wneud gwahaniaeth. Mae ymgyrch Cadw RhCT yn DACLUS yn dwyn ynghyd y Cyngor, trigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol i helpu i greu cymdogaeth lân, werdd a THACLUS i bawb ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae ymgyrch Cadw RhCT yn DACLUS yn fenter fawr sydd â'r nod o fynd i'r afael â sbwriel, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a phroblemau amgylcheddol eraill sy'n effeithio ar gymunedau lleol. Bydd yr ymgyrch yn annog pawb i ymfalchïo a charu ble maen nhw'n byw, dathlu gweithredoedd cadarnhaol trigolion cyfrifol ac atgyfnerthu'r neges bod cadw Rhondda Cynon Taf yn lân ac yn DACLUS yn gyfrifoldeb rydyn ni i gyd yn ei rannu.
Ysbwriel
Nid yn unig ydy sbwriel yn hyll, gall fod yn niweidiol i fywyd gwyllt a chael effaith enfawr ar iechyd meddwl y bobl y mae rhaid iddyn nhw ei weld bob dydd. Mae defnyddio bin neu fynd â'ch sbwriel adref yn dasg mor hawdd. Mae'n ymwneud â bod yn gyfrifol a dangos parch at ble rydyn ni'n byw. Mae ein mannau awyr agored prydferth i bawb eu mwynhau ac, yn aml, dim ond y lleiafrif sy'n eu difetha. Gadewch i ni Gadw RhCT yn DACLUS.
Ydych chi wedi gweld problem sbwriel neu leoliad sy'n aml yn llawn sbwriel? Rhowch wybod i ni fel bod modd i ni ymchwilio a thargedu adnoddau ble mae eu hangen fwyaf.
Biniau Sbwriel Cyhoeddus
Yn anffodus, mae ambell un yn parhau i roi sbwriel y cartref mewn biniau sbwriel cyhoeddus neu'n gadael bagiau o wastraff wrth eu hymyl pan fydd biniau'n llawn. Mae'r camddefnydd yma'n llenwi biniau sydd i fod ar gyfer sbwriel bach megis caniau diodydd gwag, pecynnau brechdanau, pecynnau creision ac eitemau bach eraill o sbwriel mae pobl yn eu casglu wrth fod mas o'r tŷ. Unwaith y bydd biniau'n llawn, mae mwy o wastraff yn aml yn cael ei adael wrth eu hymyl, gan greu mannau ble mae tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn gyffredin mewn cymunedau lleol. Dyw biniau sbwriel cyhoeddus ddim wedi'u cynllunio i ddal gwastraff cartref. Ddylai neb eu defnyddio yn lle casgliadau gwastraff ac ailgylchu o'r cartref.
Nid Bin Gwastraff y Cartref yw Bin Sbwriel Cyhoeddus!
Mae biniau sbwriel cyhoeddus i fod ar gyfer:
- Caniau diodydd
- Poteli plastig
- Pecynnau brechdanau
- Pecynnau creision
- Eitemau bach o sbwriel
Dydyn nhw DDIM i fod ar gyfer:
- Bagiau du
- Gwastraff y cartref
- Bagiau gwastraff bwyd
- Gwastraff masnachol mawr
- Eitemau mawr
Pan fydd gwastraff y cartref yn cael ei roi mewn biniau cyhoeddus, maen nhw'n llenwi'n gyflym ac yn gorlifo, gan atal trigolion ac ymwelwyr rhag eu defnyddio'n iawn.
Tipio Anghyfreithlon yw gadael bagiau wrth ymyl bin sbwriel cyhoeddus a gall arwain at gamau gorfodi!
Os yw bin sbwriel cyhoeddus yn llawn:
- Rhowch wybod i ni
- Dewch o hyd i fin sbwriel arall
- Ewch â'ch gwastraff adref
- Peidiwch â gadael sbwriel wrth ei ymyl
Os byddwch chi'n sylwi ar broblem amgylcheddol yn eich ardal, rhowch wybod i ni.
Mae biniau sbwriel cyhoeddus ar gyfer eitemau bach o wastraff. Os yw bin yn llawn, wedi'i ddifrodi neu wedi'i fandaleiddio, rhowch wybod i ni gan nodi'r rhif ar sticer y bin.
Tipio anghyfreithlon
Yn adroddiad diweddar Llywodraeth Cymru ar achosion o dipio anghyfreithlon ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT) wedi'i nodi'n un o'r awdurdodau gorau o ran cymryd camau gweithredu!
Cafodd 69 o bobl eu herlyn yn y llys ledled Cymru, ac roedd 18 ohonyn nhw yn Rhondda Cynon Taf oherwydd gwaith Swyddogion Gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf!
Os byddwch chi'n tipio sbwriel yn anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol, bydd y swyddogion yn ymchwilio'n fanwl iawn a byddan nhw bob amser yn cymryd camau cyfreithiol pan fo angen!
Mae tipio anghyfreithlon yn difetha cymunedau ac mae pawb yn talu. Os gwelwch chi sbwriel, dodrefn, nwyddau gwyn, teiars neu fagiau gwastraff wedi'u gadael, rhowch wybod i ni.
Perchnogion Cŵn Anghyfrifol
Mae gyda ni lawer o berchnogion cŵn cyfrifol ledled Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n gwybod nad oes angen eu hatgoffa nhw. Serch hynny, mae yna ychydig o bobl sydd angen eu hatgoffa o hyd. Mae'r neges yn glir – rhowch faw ci mewn bag ac mewn bin a pheidiwch â gadael i'ch ci gerdded ar gaeau chwarae.
Ym mis Hydref 2017, Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, a hynny drwy roi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar waith. Yn dilyn ymgynghoriadau cyhoeddus yn 2020, 2023 a 2026, cafodd cyfnod y mesurau rheoli ei estyn am NAW mlynedd arall a bydd y rheolau ar waith tan o leiaf 2029.
Rhagor o wybodaeth am y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus
Mae baw cŵn yn annymunol, yn niweidiol ac yn annerbyniol. Helpwch ni i nodi mannau problemus drwy roi gwybod am ddigwyddiadau yn eich cymuned.
Helpwch i gadw'ch milltir sgwâr yn daclus – Canolfannau Codi Sbwriel Cymunedol
Oeddech chi'n gwybod bod canolfannau codi sbwriel cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf?
Gan weithio ochr yn ochr â Chadwch Gymru'n Daclus, mae ein canolfannau'n darparu offer i helpu unigolion, ysgolion, clybiau chwaraeon, grwpiau cymunedol a thrigolion i drefnu achlysuron casglu sbwriel yn eu hardaloedd lleol.
P'un a ydych chi'n codi sbwriel ar eich stryd, yn y parc, ar gae chwarae neu o fan harddwch lleol, mae pob bag rydych chi'n ei gasglu yn helpu i wella'ch cymuned.
Dod yn rhan o bethau
- Mae modd benthyg offer codi sbwriel
- Ewch ati i drefnu achlysur tacluso cymunedol
- Cefnogwch brosiectau amgylcheddol lleol
- Ewch i gwrdd â gwirfoddolwyr o'r un meddylfryd
Hyrwyddwyr Cymunedol
Rydyn ni eisiau dathlu'r bobl sy'n helpu i Gadw RhCT yn DACLUS.
Neges i bawb sy'n gwirfoddoli i godi sbwriel ac i ysgolion, clybiau chwaraeon, busnesau a grwpiau cymunedol – mae eich ymdrechion yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Os hoffech chi ddathlu a rhoi cydnabyddiaeth i'ch grŵp, cysylltwch â ni drwy e-bostio'r manylion aton ni.
Gorfodi
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y peth iawn.
Yn anffodus, mae lleiafrif o bobl yn parhau i daflu sbwriel, tipio'n anghyfreithlon, gadael baw cŵn neu gamddefnyddio biniau sbwriel cyhoeddus.
Mae gan RCT hanes cryf o gymryd camau yn erbyn troseddau amgylcheddol a bydd yn parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau a chyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig lle bo'n briodol.
Cofiwch:
- Dyw taflu sbwriel ddim yn DACLUS
- Dyw baw cŵn ddim yn DACLUS
- Dyw tipio anghyfreithlon ddim yn DACLUS
- Dyw camddefnyddio biniau cyhoeddus ddim yn DACLUS
Mae'n werth parchu eich cymuned! Mae'n werth Cadw RhCT yn DACLUS
I mi. I chi. I'r gymuned – gyda'n gilydd, mae modd creu strydoedd glanach, parciau gwell a chymunedau y gallwn ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw.