Skip to main content

Rhowch Nhw Yn Y Bin

Gwastraff yn ymwneud â 'smygu

Rhoi’ch Stwmps Sigaréts yn y Bin – mae gwastraff yn ymwneud â ‘smygu YN sbwriel!

Os ydych chi’n diffodd eich sigarét (neu sigâr neu sigarét rydych chi’n ei rholio) mewn man cyhoeddus a dydych chi ddim codi’r stwmpyn, rydych chi’n cyflawni trosedd trwy ollwng sbwriel.Yn yr un modd, rydych yn cyflawni trosedd os ydych chi’n taflu stwmpyn sigarét allan o ffenestr y car neu’n ei ollwng ar y stryd ar ôl ‘smygu.

Mae yna lawer gormod o bobl sydd, er y bydden nhw ddim yn gollwng can diod neu garton pryd parod ar y llawr, yn credu ei fod yn beth derbyniol i daflu stwmpyn sigarét allan o ffenestr y car. 

Mae gwastraff yn ymwneud â ‘smygu yn sbwriel, ac mae’r Cyngor yn gwrthod ei oddef. 

Sut mae’r Cyngor yn delio â gwastraff yn ymwneud â ‘smygu?

O dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae’n drosedd i ollwng sbwriel. 

Mae yna sawl diffyniad cyfreithiol o sbwriel, ond yn gyffredinol, gwastraff yw ef sy’n cael ei adael yn anghyfreithlon mewn man cyhoeddus.

Bydd y bobl hynny sy’n gollwng eu stwmps sigaréts neu’n eu taflu allan o ffenestri ceir yn cael eu herlyn yn yr un ffordd â’r bobl hynny sy’n gwrthod defnyddio biniau sbwriel neu finiau baw cŵn.

Os ydych chi’n cael eich dal yn gollwng sbwriel, o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005, byddwch yn cael hysbysiad cosb benodedig o £100 gan y Cyngor.