benefits
-
Mae ailgylchu'n lleihau faint o wastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi a llosgyddion
-
Mae'n gwarchod adnoddau naturiol fel pren, dŵr, a mwynau
-
Mae'n atal llygredd trwy leihau'r angen i gasglu deunyddiau crai newydd
|
-
Mae'n arbed ynni
-
Mae'n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at newid hinsawdd byd-eang
-
Mae'n helpu i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
-
Mae'n helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd
|
Wyddoch chi – Yn ôl amcangyfrifon, mae prosesau cyfredol yn golygu bod modd ailgylchu neu gompostio 80% o’r gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan Gymru. Trwy ailgylchu, gallwch chi helpu i leihau faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.
Mae person cyffredin* yn cynhyrchu tua 488kg o wastraff (mae hyn yn cynnwys ailgylchu yn ogystal â’r gwastraff sy'n weddill). Mae modd ailgylchu tua 170kg o hyn, ond ar hyn o bryd mae'n mynd i dirlenwi yn lle hynny.
*Cyfanswm gwastraff fesul person 2021/22
Beth mae modd imi ei ailgylchu? - Lawrlwythwch PDF y mae modd ei argraffu
O ble mae modd cael bagiau ailgylchu?
Manteision Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd/Gwastraff o'r Ardd
-
Lle bo hynny'n bosibl, mae'r gwastraff o'r ardd y bydd y Cyngor yn ei gasglu yn cael ei droi'n wrtaith. Mae'r gwrtaith hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn parciau, rhandiroedd a chynlluniau adfer tir ledled Rhondda Cynon Taf.
-
Mae tua 10% o gynnwys eich gwastraff bag du/bin yn wastraff o'r ardd/gwyrdd. Os byddwch chi'n rhoi'r rhain yn eich bag/bin du, byddan nhw'n mynd i safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu nwyon wrth iddyn nhw bydru, sy'n llygru'r aer. Ailgylchwch nhw da chi yn eich bag gwyrdd yn hytrach na'u rhoi yn eich bin/bag du.
Cadwch wastraff gardd ar wahân i'ch gwastraff ailgylchu arferol gan fod gwastraff gardd yn cael ei ailgylchu'n wahanol yn eich bag gwyrdd.
Peidiwch â rhoi pridd, rwbel a cherrig yn eich gwastraff gwyrdd oherwydd does dim modd i ni eu hailgylchu yn rhan o'r gwastraff o'ch gardd ar hyn o bryd.
Does dim modd i'r Cyngor gasglu siediau, setiau patio a theganau awyr agored sy’n hen neu wedi'u difrodi o ymyl y ffordd.
Cofrestrwch ar gyfer Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd
Pa wastraff gardd a oes modd imi ei ailgylchu?
O ble mae modd cael bagiau ailgylchu?
Manteision ailgylchu gwastraff bwyd
-
Mae'n arbed arian! Os byddwch chi'n prynu'r bwyd sydd angen arnoch chi'n unig, byddwch chi'n gwario llai yn yr archfarchnad. Dim ond un bin ailgylchu sydd gyda chi ar gyfer eich gwastraff bwyd. mae modd i chi weld yn glir faint o fwyd rydych yn ei wastraffu a lleihau eich siopa bwyd yn unol â hynny.
-
Mae llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hynny'n lleihau'r nwyon tirlenwi sy'n cael eu rhyddhau i'r amgylchedd.
-
Rydych chi'n creu "ynni gwyrdd". Mae modd troi gwastraff bwyd sydd wedi'i ailgylchu yn wrtaith buddiol.
Peidiwch â rhoi pecynnau bara plastig yn eich bin gwastraff bwyd, a defnyddiwch fagiau ailgylchu bwyd y Cyngor yn unig, gan fod y rhain yn pydru'n naturiol.
Cofrestrwch ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd.
Pa wastraff bwyd a oes modd imi ei ailgylchu?
O ble mae modd cael bagiau ailgylchu?
Manteision ailgylchu cewynnau
-
Erbyn i blentyn gyrraedd dwy a hanner oed, fe fydd wedi defnyddio 6,500 o gewynnau ar gyfartaledd, sy’n cyfateb i dros 10 tunnell o wastraff.
-
Ar hyn o bryd, mae 3 biliwn o gewynnau untro yn mynd i safleoedd tirlenwi ledled y Deyrnas Unedig bob blwyddyn (neu 8 miliwn y dydd) – mae hynny'n llawer o becynnau bach drewllyd sy'n cael eu gadael i bydru! Mae'n bwysig felly bod pobl yn eu hailgylchu yn hytrach na'u rhoi yn y bin du (gwastraff cyffredin).
-
Mae cewynnau untro wedi'u gwneud o blastig, elastig, glud, mwydion papur a chemegau sydd ddim yn pydru'n rhwydd, ac mae'n bosibl iddyn nhw ryddhau tocsinau i mewn i'r ddaear. A dweud y gwir, mae'n debyg y gallai gymryd cannoedd o flynyddoedd (neu fwy na 500 o flynyddoedd, yn ôl rhai) cyn i gewynnau untro ddechrau pydru.
-
Ar ben hynny, wrth iddyn nhw bydru mewn safleoedd tirlenwi, mae'r carthion sydd ynddyn nhw'n rhyddhau methan i'r aer. Nwyon tŷ gwydr yw methan, ac mae e ddwywaith mor wael â charbon deuocsid, gan gyfrannu at gynhesu byd eang. A dweud y gwir, mae nifer y cewynnau untro sy'n cael eu defnyddio gan bob plentyn, cyfwerth â hyd at 630kg o fethan, sy'n gyfwerth â'r hyn mae car yn ei gynhyrchu dros 1,800 o filltiroedd.
Cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth ailgylchu cewynnau.
Ble mae fy ailgylchu'n mynd?
Mae ailgylchu yn RhCT yn cael ei gludo i ganolfan ailgylchu Amgen Cymru yn Llwydcoed, lle mae'n cael ei ddidoli i blastigau, gwydr, papur a metel. Yna caiff a'i roi i mewn i fwndeli yn barod i'w hanfon i ganolfannau ailgylchu penodol ledled y DU.
Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned
Mae gan y Cyngor nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, sydd wedi'u gwasgaru ar draws y fwrdeistref sirol - gan wneud ailgylchu hyd yn oed yn haws!
Dewch o hyd i'ch canolfan agosaf yma.