Gwarchod eich Gwadnau - Os ydych chi’n Gollwng eich Gwm, gallwch chi gael dirwy o £100!
Mae gwm cnoi yn sbwriel anodd i ddelio ag ef, am ei fod yn ludiog ac yn cymryd hyd at 5 mlynedd i bydru.
Dydy gweithdrefnau glanhau arferol fel sgubo’r strydoedd a chasglu sbwriel ddim yn cael gwared ar gwm cnoi, ac felly mae rhaid i’r Cyngor fabwysiadu dulliau arbenigol megis golchi gyda jet.
Gall hyn gostio’n ddrud – yn ôl Cadwch Brydain yn Daclus, gall glanhau gwm cnoi gostio hyd at £1.50 bob milltir sgwâr. Dyma arian a allai gael ei wario ar wasanaethau reng flaen allweddol.
Mae gwm cnoi sy’n cael ei daflu yn broblem fawr sy’n gwaethygu o hyd, yn arbennig yng nghanol trefi.
Mae gweld gwm cnoi ar stryd sydd fel arall yn daclus yn creu argraff o sbwriel.
Ffeithiau Gwm Cnoi
- Ar gyfartaledd, mae darn o gwm cnoi yn costio tua 3 ceiniog ond mae clirio darn o gwm cnoi a gafodd ei ollwng yn costio tua 10 ceiniog.
- Mae’n cymryd hyd at 5 mlynedd i gwm cnoi bydru.
- Mae rhai gwledydd yn ystyried gosod treth ar gwm er mwyn helpu talu’r gost glanhau.
- Yn Singapôr, mae gwm cnoi wedi’i wahardd. Dim ond os oes gyda chi bresgripsiwn gan feddyg neu ddeintydd y gallech chi gnoi gwm.
- Ledled y byd, cafodd 650,000 tunnell fetrig o gwm cnoi ei gynhyrchu yn 2005. Mae nifer yn rhagweld y bydd miliwn tunnell o gwm cnoi yn cael ei gynhyrchu erbyn 2010. Mae hyn gyfystyr â phwysau 2,423 awyren Boeing 747-400 yn llawn o bobl.
- Mae 28 miliwn o bobl ym Mhrydain yn cnoi 935 miliwn pecyn o gwm cnoi bob blwyddyn. Mewn geiriau eraill, mae hanner poblogaeth y DU yn cnoi darn o gwm cnoi bob diwrnod am 47 wythnos o’r flwyddyn.
- Dydy pobl ddim yn rhoi 80-90% o gwm cnoi mewn biniau sbwriel.
- Gall cyfanswm y gwm cnoi sy’n cael ei boeri ar ein palmentydd bob blwyddyn greu 3 thŵr y cloc Big Ben wedi’i wneud yn gyfan gwbl o gwm cnoi.
- Cynyddodd defnydd o gwm cnoi 30% yn Iwerddon ar ôl cyflwyniad y Gwaharddiad Ysmygu.
- Cafodd gwm cnoi modern ei ddyfeisio ar ddamwain. Roedd Thomas Adams, dyfeisiwr o Efrog Newydd, yn ceisio creu deunydd ar gyfer teiars ceir. Mae gwm yn cael ei greu heddiw o rwber synthetig tebyg, ac felly dydy gwm ddim yn pydru.
- Mae Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif bod glanhau gwm cnoi er 1997 wedi costio £158 miliwn. Mae dadansoddwyr annibynnol yn credu gall y gost fod teirgwaith yn fwy.
- Ym mis Ebrill 2006 am y tro cyntaf erioed, o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd, datganwyd mai sbwriel yw gwm cnoi. Gall pobl sy’n gollwng gwm cnoi dderbyn dirwy o £100 yn y fan a’r lle.
Mae cael gwared ar gwm cnoi yn broses ddrud sy’n llyncu amser.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf gyda system golchi bwerus i lanhau gwm o’n strydoedd a’n palmentydd. Mae’n gwneud hyn yn barhaol o gwmpas canol ein trefi a’n strydoedd.
Er hynny, dydy hyn ddim yn gynaliadwy.
Os ydych chi’n cnoi gwm, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei roi yn y bin sbwriel. Os dydych chi ddim yn gallu dod o hyd i fin sbwriel, rhowch y gwm cnoi mewn papur ac yna rowch e yn y bin unwaith i chi ddod o hyd i un.