Skip to main content

Everyone's Doing IT

 

 Generic-Banners-large-WELSH

Ymgyrch ailgylchu ar gyfer Rhondda Cynon Taf a PHUM Awdurdod Lleol cyfagos yn Rhanbarth De Ddwyrain Cymru yw Mae Pawb WRTHI. Mae'r ymgyrch wedi'i chefnogi a'i chyllido gan Lywodraeth Cymru ac mae hi wedi cael ei mabwysiadu'n lleol gan Rhondda Cynon Taf a phob un o'r Awdurdodau Lleol partner.

Bwriad yr ymgyrch yma yw gwneud i ddefnyddwyr AROS, MEDDWL ac AILGYLCHU gymaint ag sy'n bosibl. Erbyn hyn, mae mwy o bobl nag erioed yn dewis AILGYLCHU yng Nghymru ac mae hynny'n dangos bod Pawb WRTHI - felly os nad ydych chi wrthi, pam lai?

Mae gan Gymru un o'r cyfraddau ailgylchu uchaf ar draws y  DU, Ewrop a'r Byd. Rhaid i ni, fel cenedl, barhau i adeiladu ar y llwyddiant yma ac ailgylchu rhagor - byddwn ni'n gweithio gyda

  • Blaenau Gwent
  • Powys
  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Caerffili
  • Bro Morgannwg

i ddangos does dim gyfyngiadau i bosibiliadau ailgylchu ac er ein bod ni gyd WRTHI mewn ffyrdd gwahanol - Mae Pawb WRTHI o Treorchi y Caerdydd. Mae pobl hyd yn oed WRTHI yn eu hystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi, ceginau a hyd yn oed yn yr ardd!

Mae'n hen bryd AROS.MEDDWL.AILGYLCHU

Rydyn ni'n gofyn i breswylwyr ymuno â ni ac ailgylchu ar gyfer Rhondda Cynon Taf

Dysgwch ragor ynglŷn â sut rydyn ni'n mynd wrthi yn Rhondda Cynon Taf 

I ddysgu rhagor ynglŷn â'r ymgyrch, ewch i: www.arosmeddwlailgylchu.cymru