Skip to main content

Dwyn Metel

Os ydych chi’n Gipiwr Metel yn Rhondda Cynon Taf rydyn ni’n dod ar eich ôl chi!

Cipio Metel neu Ddwyn Metel fel y mae’n cael ei adnabod yw un o’r materion mwyaf yn Rhondda Cynon Taf ac y mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn cosbi lladron metel a delwyr metel sgrap yn llym!

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r broblem genedlaethol hon y mae’r Cyngor wedi sefydlu tîm penodedig yn cynnwys swyddogion ymwybyddiaeth Gofal y Strydoedd, swyddogion trwyddedu ac y mae’n gweithio’n agos â swyddogion Heddlu De Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Mae’r dull partneriaeth unigryw hwn yn un o’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac yn dilyn nifer o ymosodiadau o fewn ein Bwrdeistref Sirol.

Mae Dwyn Metel yn effeithio’r gymuned gyfan ac yn gallu arwain at ganlyniadau marwol – mae modd gweld hyn ar y DVD Cipwyr Metel. Mae’n ffilm fer ddidrugaredd sydd wedi’i chreu gan y Cyngor a’i bartneriaid i drosglwyddo neges “Ochr Dywyll Dwyn Metel”.

    

Mae’r DVD yn pwysleisio nid yw Dwyn Metel yn ymwneud â chlawr twll caead na chebl gwifrau coll yn unig, o achos y lladron hyn:

  • Mae 8 person ar draws y DU eisoes wedi talu pris marwol Dwyn Metel a miloedd mwy wedi’u hanafu a’u creithio am oes.
  • Mae Dwyn Metel wedi arwain at ddifrod gwerth dros £250,000 i gymunedau ledled Rhondda Cynon Taf – yn cynnwys ceblau goleuadau stryd, biniau ysbwriel a gorchuddion cwteri.
  • Canslwyd dros 80 o lawdriniaethau mewn ysbyty yn Ne Cymru gan adael cleifion mewn perygl.
  • Canslwyd gwasanaethau crefyddol o ganlyniad i Ddwyn Metel – targedwyd Amlosgfa Glyntaf yn ystod 2012 gan achosi difrod gwerth £9,000.
  • Siomwyd cyn-filwyr rhyfel wedi i Gofeb Ryfel Aberpennar gael ei thargedu gan achosi difrod gwerth £40,000.
  • 4 ysgol yn Rhondda Cynon Taf o dan ddŵr a gorfod cau i ddisgyblion wedi i foeleri gael eu tynnu a sêl blwm ei dwyn oddi ar y toeau.
  • Canslwyd gemau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf o ganlyniad i ddifrod gwerth dros £15,000.
  • Ceir tarfu ar wasanaethau trenau ledled y DU wrth i drenau gael eu hoedi am ryw 117 o oriau bob wythnos.
  • Bob wythnos ceir 1,000 o achosion dwyn metel gan gostio economi y DU tua £770m y flwyddyn.

Mae’r fideo byr dilynol yn rhoi cyngor i drigolion ar sut i ddiogelu eu heiddo ac yn cynnwys pobl go iawn sydd wedi’u heffeithio gan Ddwyn Metel difeddwl.

DVD Heddlu De Cymru

Mae’r Cyngor a’i bartneriaid yn rhybuddio’r rhai sydd yn gyfrifol i fod yn wyliadwrus wrth iddynt gynllunio cyfres o weithrediadau i ddal y troseddwyr sydd yn gyfrifol.

Beth all trigolion ei wneud i helpu?

Mae’r Cyngor a’i bartneriaid hefyd yn galw ar drigolion i ymuno â’r frwydr a bod yn wyliadwrus gan gadw llygad barcud ar gyfer unrhyw beth amheus. Bydd gweithwyr y Cyngor neu eu Contractwyr bob amser mewn cerbydau sydd wedi’u brandio yn glir ac yn ymgymryd â’r gwaith yn ystod oriau dydd arferol mae unrhyw un sydd yn cael ei weld yn gweithio y tu allan i’r oriau hyn neu’n ymddangos i fod yn gweithio yn anniogel yn debyg o fod yn dwyn yr eitemau. 

Os ydych chi’n gweld unrhyw gerbydau amheus heb farciau wedi’u parcio mewn cilfannau neu’n agos at finiau dur/goleuadau stryd/toeau neu ddraeniau nodwch rif cofrestru’r cerbyd a chysylltu â’r Heddlu neu’r Cyngor cyn gynted â phosib.

Mae’r amrywiaeth o eitemau sydd wedi’u dwyn yn cynnwys eitemau y gallant fod yn beryglus a allai fod yn farwol ar gyfer y lleidr ac aelodau’r cyhoedd o ganlyniad i’r ffordd eu bod yn cael eu dwyn. Yn aml, y mae dwyn ceblau goleuadau stryd a gorchuddion cwteri yn gadael gwifrau byw yn hongian dros ffyrdd/palmentydd a thyllau draen ar ddangos gan wneud yr ardal yn beryglus ar gyfer aelodau’r cyhoedd diniwed.

Cymerir yn ganiataol bod y lladron bachu cyfle sydd yn gyfrifol am yr achosion dwyn hyn yn mynd â’r eitemau i iardiau sgrap yn gyfnewid am arian sydd yn ddibwys o gymharu â chost prynu rhai newydd.

Mae’r Cyngor eisoes wedi hysbysu delwyr sgrap lleol bod trafod nwyddau sydd wedi’u dwyn yn anghyfreithlon ac os deuir o hyd i unrhyw eiddo’r Cyngor yn eu meddiant cysylltir â’r Heddlu a byddant yn wynebu dirwy, cofnod troseddol ac, o bosib, cael eu carcharu. Fel rhan o’r drefn mynd i’r afael, ar hyn o bryd, y mae’r Cyngor yn rhoi cynlluniau mewn lle i gyflwyno system taliadau di-arian fel nad oes modd gwerthu metel yn anhysbys bellach.

Beth mae'r Cyngor yn ei wneud?

Ni fydd Rhondda Cynon Taf yn goddef gweithredu o’r math yma.  Dyma pam mae'r Cyngor a’i asiantaethau partner wedi lansio gweithredoedd cudd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Canlyniadau’r gweithredoedd llwyddiannus diweddaraf oedd:

  • Chwilio 73 o gerbydau  
  • 24 o arestiadau yn ymwneud â dwyn metel sgrap, cyffuriau, yfed a gyrru a dwyn cerbydau
  • 10 o rybuddion
  • Un cerbyd wedi’i atafaelu am fod cymaint o ddiffygion arno cafodd ei ystyried i fod yn rhy beryglus ar gyfer defnyddwyr eraill ar y ffordd
  • Dosbarthwyd 36 o hysbysiadau cosb benodedig yn cynnwys 15 am £300 yr un i’r rhai nad oedd ganddynt y trwyddedau a’r gwaith papur angenrheidiol
  • Naw cerbyd heb eu trethu
  • 3180 o blatiau rhif cofrestru wedi’u gwirio gan DVLA
  • Ymdrin â thri gyrrwr am beidio â gwisgo gwregys
  • 31 o yrwyr yn derbyn gweithdrefnau i gyflwyno eu dogfennau i orsaf heddlu
  • 6 throseddwr wedi’u collfarnu a derbyn dirwy hyd at £150 yr un a rhyddhad amodol am gyfnod o 12 mis.
  • Mynd i’r afael â 53 o achosion dwyn metel wedi’u hadrodd i’r heddlu.

Ers lansio’r weithred ym mis Mawrth 2012 y mae achosion Dwyn Metel wedi lleihau yn Rhondda Cynon Taf gan 44%.

Os oes gennych chi wybodaeth am yr achosion hyn a wnewch chi roi gwybod i ni, nid oes angen i chi roi eich enw a’ch manylion os hoffech chi aros yn anhysbys. Ar hyn o bryd, y mae’r Cyngor yn gweithio â’r Heddlu ac asiantaethau partner eraill.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am achos dwyn cysylltwch â Heddlu De Cymru ar 101 neu cysylltwch â’r Cyngor ar 01443 425001