Pam ydyn ni'n casglu bagiau a deunydd lapio plastig?
Yn y DU, dim ond 6% o fagiau a deunydd lapio plastig sy'n cael eu hailgylchu. Mae'r gwasanaeth newydd yn ein helpu i ailgylchu'n well gyda'n gilydd.
Daw bron pob deunydd plastig newydd sbon o ffynonellau ffosil, sydd bob blwyddyn yn creu miliynau o dunelli o nwyon tŷ gwydr sy'n niweidio'r blaned.
Drwy ailgylchu plastigau meddal *a gaiff eu derbyn wrth ymyl y ffordd, rydyn ni'n cefnogi Cymru i fodloni ei thargedau lleihau carbon ac ailgylchu, ac yn helpu i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod ymhlith y gwledydd gorau yn y byd o ran ailgylchu.
Mae modd defnyddio bagiau a deunydd lapio plastig wedi'u hailgylchu i greu rhagor o ddeunydd pacio plastig, 'bagiau am oes' a deunyddiau a gaiff eu defnyddio ym maes ffermio neu adeiladu.
Pam ydych chi wedi cyflwyno bagiau a deunydd lapio plastig i'm gwasanaeth casglu deunyddiau i'w hailgylchu?
Rydyn ni wedi cyflwyno gwasanaeth newydd i wneud ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig yn haws i chi. Drwy gyflwyno'r deunyddiau yma yn rhan o'n gwasanaeth ailgylchu, rydyn ni'n helpu i leihau swm y gwastraff yn eich bagiau du, lleihau llygredd, a chefnogi ailgylchu rhagor o'ch deunydd pacio bob dydd - fel bagiau bara, bagiau bwyd wedi'i rewi a bagiau ffrwythau. Mae'n gam tuag at wasanaeth ailgylchu mwy cyson a chyflawn i bawb.
Beth yw'r budd amgylcheddol o ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig?
Mae creu cynhyrchion newydd o blastig wedi'i ailgylchu yn cynnig llawer o fanteision i'r amgylchedd. Daw bron pob deunydd plastig newydd sbon (plastig heb ei ailgylchu) o danwydd ffosil, ac mae'r broses o gynhyrchu plastig yn creu miliynau o dunelli o nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn sy'n niweidio'r amgylchedd.
Oes modd imi barhau i ailgylchu fy magiau a deunydd lapio plastig yn y mannau ailgylchu wrth fynedfa archfarchnadoedd?
Gan fod casgliadau bagiau a deunydd lapio plastig bellach ar gael, ailgylchwch eich bagiau a'ch deunydd lapio plastig wrth ymyl y ffordd, trwy roi eich plastigau meddal *a gaiff eu derbyn yn eich bag ailgylchu CLIR.
Ga i roi pob math o fagiau a deunydd lapio plastig yn y bag?
Caiff unrhyw fagiau a deunydd lapio plastig wedi'u rhestru yn yr adran plastigau meddal *a gaiff eu derbyn eu casglu, cyn belled â'u bod yn lân a heb olion bwyd.
Pryd bydd casgliadau'n digwydd?
Bydd plastigau meddal yn cael eu casglu yn rhan o'ch gwasanaeth casglu Bagiau CLIR wythnosol arferol. Yn syml, rhowch y plastigau meddal *a gaiff eu derbyn yn eich Bag Clir.
Beth am y bagiau ailgylchu CLIR - fyddwch chi'n eu hailgylchu yn rhan o hyn?
Byddwn, bydd bagiau ailgylchu CLIR glân a sych yn cael eu hailgylchu a bydd modd eu troi'n fag CLIR arall neu fag am oes.
Pam dyw 'plastigau meddal' ddim wedi'i nodi ar fy mag CLIR? Ga i ei ddefnyddio o hyd?
Cewch, mae'r bagiau CLIR wrthi'n cael eu diweddaru ar hyn o bryd a bydd y rhai newydd, a fydd yn cynnwys plastigau meddal a phapur, ar gael yn fuan. Mae'r criwiau'n gwbl effro i'r newidiadau a byddan nhw'n dal i dderbyn plastigau meddal a phapur yn yr 'hen' fagiau. Rhowch eich plastigau meddal a gaiff eu derbyn, papur a deunyddiau sych mae modd eu hailgylchu yn y bag CLIR.
Beth yw plastigau cymysg neu gyfansawdd?
Unrhyw eitem sy'n cynnwys 2 neu ragor o fathau o ddeunydd, e.e. plastig gydag arian y tu mewn, cardfwrdd gyda ffenestr blastig ac ati (cyfansawdd). Dyma rai enghreifftiau: blychau cacennau, bagiau i'w rhannu neu ddeunydd lapio bariau siocled Cadbury's, pecynnau creision Walkers, cydau tabledi peiriant golchi llestri Fairy, cydau bwyd babanod ac anifeiliaid anwes, a thiwbiau creision Pringles.
Pam does dim modd ichi dderbyn plastigau meddal cymysg neu gyfansawdd?
Ar hyn o bryd, does dim modd ailgylchu pob bag a deunydd lapio plastig sydd wedi'i gymysgu â deunyddiau eraill sydd i'w hailgylchu, ond mae technoleg yn gwella a'r gobaith yw bydd modd ailgylchu'r deunydd yma gartref yn y blynyddoedd nesaf.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau pellach sydd heb eu cynnwys yn 'Cwestiynau Cyffredin', cysylltwch â ni.