Skip to main content

Bant â'r Baw! - achlysuron codi ymwybyddiaeth ar gyfer rheolau newydd i gŵn

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i gyflwyno rheolau llymach er mwyn trechu problem perchnogion cŵn anghyfrifol yn Rhondda Cynon Taf. Byddant yn dod i rym ar 1af Hydref 2017.

O ganlyniad i hyn, RHAID i berchnogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw. Caiff cŵn hefyd eu gwahardd o HOLL ysgolion, mannau chwarae, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw. Bydd RHAGOR o swyddogion gorfodi allan hwnt ac yma, a RHAID i berchnogion cŵn ddilyn unrhyw gyfarwyddyd maen nhw'n ei roi.

Ymgyrch Ewch â'r C*CH* 'da chi!

Bydd cyfres o achlysuron codi ymwybyddiaeth yn cael eu cynnal ym mis Awst a mis Medi fel rhan o ymgyrch Bant â'r Baw! y Cyngor. Diben hyn yw gofalu fod preswylwyr yn gwybod yn union beth yw'r rheolau newydd erbyn iddynt ddod i rym.

Mae'r achlysuron a gadarnhawyd wedi'u rhestru isod.

Sioeau Teithiol - Canol ein Trefi

Dyddiad

Manylion neu Achlysuron

Amser

Dydd Gwener 4 Awst

Dunraven Street, Canol Tref Tonypandy

10.00yb - 2.00yp

Dydd Iau 10 Awst

Sgwâr y Llyfrgell, Canol Tref Aberdâr

10.00yb - 2.00yp

Dydd Gwener 11 Awst

Sgwâr Guto, Canol Tref Aberpennar

10.00yb - 2.00yp

Dydd Gwener 18 Awst

Parc Manwerthu Tonysguboriau

10.00yb - 2.00yp

Dydd Mercher 23 Awst

Mill Street, Canol Tref Pontypridd

10.00yb - 2.00yp

Dydd Gwener 25 Awst

Canol Tref Glynrhedynog

10.00yb - 2.00yp

Dydd Iau 31 Awst

Siop Fwyd Gydweithredol, Canol Tref Treorci

10.00yb - 2.00yp

Dydd Gwener 1 Medi:

Canol Tref y Porth

10.00yb - 2.00yp

Parciau

Dyddiad

Manylion neu Achlysuron

Amser

Dydd Sadwrn, 5 Awst, a Dydd Sul, 6 Awst

Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd

10.00yb - 2.00yp

Dydd Llun 7 Awst

Parc Gwledig Cwm Dâr

10.00yb - 2.00yp

Dydd Llun 14 Awst

Parc Bronwydd

10.00yb - 2.00yp

Ddydd Mercher, 16 Awst

Parc Aberdâr

10.00yb - 2.00yp

Dydd Llun 21 Awst

Parc Gwledig Hen Gilfan y   Barri

10.00yb - 2.00yp

Achlysuron

Dyddiad 

Manylion neu Achlysuron

Amser

Dydd Sadwrn 5 Awst a dydd Sul 6 Awst

 Cegaid o Fwyd Cymru – Gwŷl Fwyd Cymru

10.00yb - 2.00yp

Dydd Sadwrn 12 Awst

Diwrnod Trafnidiaeth o Dras, Pontypridd

11.00yb - 5.00yp

Dydd Sul 27 Awst

Gŵyl Ynys-y-bŵl

11.00yb - 5.00yp

25-30 Medi

Wythnos Ailgylchu 2017

Amrywiol