Bydd carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn ymdrechu i glirio eira a rhoi halen ar y llwybrau teithio sydd â blaenoriaeth yn ystod tywydd gaeafol. Mae'r Cyngor wedi prynu 3 cherbyd 4x4 ag erydr ar gyfer mynd i'r afael â mwy o'r strydoedd cefn nag yn y gorffennol.
Serch hynny, mae'n amhosibl inni gyrraedd pob stryd yn Rhondda Cynon Taf, ac mae modd i 'gymdogion da' roi help llaw trwy glirio eira a rhew ar leiniau parcio preifat, y pafin ac yn ystod eira trwm, y ffyrdd – ond dim ond pan fydd hynny'n ddiogel.
Dyma gyngor da i 'gymdogion da' wrth fynd ati i glirio eira a rhew:
- Ceisiwch glirio eira yn gynnar yn y dydd – mae'n haws symud eira rhydd sydd newydd gwympo
- Peidiwch â defnyddio dŵr – efallai bydd hyn yn rhewi eto ac yn troi'n rhew du, gan achosi perygl arall i gerddwyr a gyrwyr.
- Gwasgarwch halen os ydy hynny'n bosibl – bydd yn gwneud i'r eira a'r rhew ddadleth, a'u hatal rhag ail-rewi dros nos. Defnyddiwch halen gwyn ar gyfer llwybrau troed a lleiniau parcio preifat. Mae'r halen yn y biniau ar gyfer y ffyrdd.
- Bwrw iddi – Bydd y Cyngor a rhagoygon y tywydd yn rhoi rhybudd ymlaen llaw yn aml am y posibilrwydd o eira a rhew. Dyma gyfle i drigolion daenu'r halen cyn i'r tywydd mawr gyrraedd. Os nad oes halen gyda chi, bydd lludw a thywod hefyd yn rhoi digon o afael o dan draed.
- Gofal piau hi - wrth i chi daenu halen neu glirio eira oddi ar grisiau neu lethrau serth. Peidiwch ag atal llwybrau pobl na thagu draeniau wrth i chi glirio eira o fan i fan. Gwnewch lwybr yng nghanol yr ardal sydd i'w chlirio yn gyntaf, fel bydd wyneb clir ichi gerdded ar ei hyd.
Peidiwch ag ofni clirio llwybrau oherwydd eich bod chi'n poeni bydd rhywun yn cael anaf. Cofiwch, mae gan bobl sy'n cerdded ar eira a rhyw gyfrifoldeb eu hunain i fod yn ofalus.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi darparu Côd Eira defnyddiol ar gyfer clirio'ch llwybr troed neu lain barcio.