Skip to main content

Rhoi cymorth i bobl fregus

Efallai bydd rhai pobl yn y gymuned yn cael eu heffeithio mwy na phobl eraill pan fydd eira trwm yn cwympo – er enghraifft, trigolion hŷn a bregus, ac efallai bydd angen cymorth eu cymdogion arnyn nhw.

all-4-WELSH-1Dylai teulu, ffrindiau a chymdogion gadw mewn cysylltiad rheolaidd â phobl fregus yn ystod cyfnodau o dywydd garw, er mwyn gofalu'u bod nhw'n ymdopi.

Dyma restr wirio o'r hyn ddylech chi'i gadw mewn cof – yn enwedig yn ystod cyfnodau o eira sy'n para rhai dyddiau:

  • Cofiwch eich cymydog - Os bydd y llenni wedi'u cau am gyfnodau hir, goleuadau heb eu diffodd, neu nwyddau yn dal ar garreg y drws – hwyrach bod rhwybeth o'i le. Cynigiwch eich cymorth, peidiwch â gadael i'ch cymdogion ofyn i chi.
  • Rhowch eich rhifau ffôn i'ch gilydd - bydd hyn yn fodd i chi gadw mewn cysylltiad yn rheolaidd, os nad oes modd ichi sicrhau bod eich cymydog yn ddiogel wyneb yn wyneb.
  • Gofalwch fod bwyd a diod gyda nhw - Gallai 'Cymdogion Da' hefyd gynnig i fynd i'r siopau ar ran cymdogion bregus, lle bo angen. Cofiwch, efallai na fydd modd i wasanaethau Pryd-ar-glud a gwasanaethau tebyg weithredu pan fydd eira mawr. Meddyliwch am wahodd eich cymydog am damaid os ydy hi'n ddiogel i wneud hynny, neu fynd â bwyd atyn nhw.
  • Gwnewch yn siŵr bod eitemau eraill gyda nhw - meddyliwch am beth fyddai'i angen ar drigolion bregus, yn enwedig os na allan nhw'i mentro hi am rai dyddiau. Er enghraifft – radio batri, pecyn cymorth cyntaf, a'u meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Gofynnwch a ydyn nhw'n iach, a bwrw golwg ar eu teclynnau synhwyro mwg, teclynnau synrhywo carbon monocsid, a bod eu system wresogi a dŵr yn iawn.

Mae sefydliad Age UK yn darparu gwybodaeth bwysig am sut gall pobl hŷn baratoi at y gaeaf.

Oes gyda chi bryderon sylweddol am lesiant unigolyn? Ffoniwch Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion:

- 01443 425003 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am–5pm).  

- 01443 743665 (tu allan i oriau'r swyddfa – mewn achos o argyfwng yn unig).