Skip to main content

Mynnwch y newyddion diweddaraf

Mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'r sefyllfa yn ystod eira trwm yn bwysig iawn, ac mae rhoi gwybod i bobl eraill yn ffordd i chi fod yn 'gymydog da’.

all-4-WELSH-3Dyma rai pethau i gadw mewn cof:

  • Cadwch lygad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor -  @CyngorRhCT ar Twitter a 'Cyngor Rhondda Cynon Taf' ar Facebook. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybodaeth bwysig trwy'r cyfryngau yma, megis rhybuddion tywydd, ffyrdd ar gau, cyngor ar deithio, a gwybodaeth am sefyllfa'r gwasanaethau.
  • Gwifren ffôn bwrpasol newydd - bydd hon ar gael ar gyfer Aelodau Etholedig, felly cadwch lygad am gyngor a gwybodaeth bwysig oddi wrth eich Cynghorydd lleol yn ystod eira mawr.
  • Bydd ffynonellau dibynadwy o newyddion hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor yn ystod eira mawr.
  • Rhowch wybodaeth i'ch cymdogion - cofiwch nad yw pawb yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol  a does dim modd i bawb gyrchu'r we, felly rhannwch wybodaeth sydd gyda chi gan ffynonellau dibynadwy ar Facebook, Twitter, gwefan y Cyngor neu ffrydiau newyddion.

Bydd y Cyngor hefyd yn diweddaru'i dudalennau Tywydd Garw yn ystod tywydd garw difrifol. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth bwysig megis cau ysgolion, newidiadau i gasgliadau biniau/ailgylchu a chau ffyrdd, ac ati.