Pan fydd tywydd gaeafol difrifol yn taro, dylai trigolion ystyried a oes rhaid teithio o gwbl. Efallai bydd ffyrdd yn beryglus bydd hi'n anodd gweld yn bell, tra bod posiblirwydd na fydd gyrwyr yn gallu symud yn yr eira.
Serch hynny, os bydd rhaid teithio, mae nifer o fesurau gall gyrwyr roi yn eu lle er mwyn sicrhau'u bod nhw'n aros yn ddiogel ar y ffyrdd:
- Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y gaeaf gan gynnwys esgidiau addas – a chario ffôn symudol â batri llawn.
- Gwnewch yn siwr bod eich car yn iawn i deithio (rhagor o fanylion i ddilyn).
- Byddwch yn barod – meddyliwch am yr hyn fyddai ei angen arnoch chi pe bai'r car yn torri i lawr. Dylech chi ystyried rhoi rhai eitemau pwysig yn eich car, gan gynnwys pecyn cymorth cyntaf, gwifrau cyswllt ar gyfer y batri, map teclyn lloeren â llyw, torsh, batris sbâr, blanced, arwydd rhybudd llachar, bwyd a diod, crafwr iâ, hylif toddi iâ, a rhaw.
- Os bydd eich car yn torri i lawr neu'ch bod chi'n mynd yn sownd... a bydd raid i chi adael eich cerbyd, peidiwch â rhoi'r goleuadau rhybudd i weithio. Bydd y sylw yn cael ei ddenu at y goleuadau, yn hytrach na chi. Peidiwch â gadael i injan eich cerbyd i redeg am fwy nag ychydig funudau. Gofalwch nad yw'r eira yn tagu'r beipan fwg (ecsôst)
- Defnyddiwch y brif ffyrdd ac osgoi'r strydoedd cefn lle y bo'n bosibl – blaenoriaeth y Cyngor yw cadw'r prif ffyrdd ar agor yn y lle cyntaf.
- Mewn achos o argyfwng, ffoniwch 999.
Mae gan sefydliadau'r AA a RAC dudalennau penodol ar gyfer cyngor ar yrru yn y gaeaf a chynnal a chadw car.