Skip to main content

Cwsmeriaid Afresymol o Ddi-baid

O bryd i'w gilydd fe fydd cwsmeriaid yn bwrw ymlaen â'u hachosion mewn ffordd sy'n llesteirio a rhwystro gwaith ymchwilio i'w cwynion, neu sy'n creu ystyriaethau arwyddocaol neu sylweddol i'r Cyngor ynghylch adnoddau wrth ymdrin a delio â materion a phroblemau a godant.

Dyna pam mae'r Cyngor wedi llunio Polisi Cwsmeriaid Afresymol o Ddi-baid er mwyn gofalu a sicrhau nad yw gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu cyfyngu na'u lleihau i'r cyfryw gwsmeriaid, a'n bod yn ymdrin a delio â hwy mewn ffordd gyson a theg yn eu trafodion ac ymwneud â'r Cyngor.

Disgrifiad o Gwsmeriaid Afresymol o Ddi-baid

Fe geir, fe ellir, ac fe ganiateir dosbarthu cwsmeriaid fel rhai 'afresymol o ddi-baid' oherwydd amlder a/neu natur eu cysylltiadau neu'u cwynion. Gallai ymddygiad fod yn ymosodol, yn frawychus, yn ddychrynllyd,  yn fygythiol, yn anghydweithredol, neu'n anystywallt, 

Rheoli Cwsmeriaid Afresymol o Ddi-baid

O dan y Polisi hwn, mae Pwyllgor Safonau'r Cyngor wedi cymeradwyo polisi tri cham ar gyfer ymdrin a delio â chwsmeriaid o'r fath.

Ar ôl i ni ganfod a nodi fod cwsmeriaid yn rhai afresymol o ddi-baid, byddwn ni'n anfon llythyr o rybudd atynt i ofyn iddynt gymhwyso ac addasu'u hymddygiad yn eu trafodion ac ymwneud â'r Cyngor. Os na fydd yr ymddygiad yn gwella, fe gaiff, fe eill, ac fe ganiateir i Uwch Swyddogion gyfyngu ar drefrniadau cysylltu'r cwsmeriaid dan sylw, neu roi terfyn arnynt yn gyfan gwbl. Bydd y penderfyniad yn briodol ac addas i ymddygiad y cwsmeriaid, gan ystyried eu hamgylchiadau penodol. 

Proses Apelio   

Fe gaiff, fe eill, ac fe ganiateir i Gwsmeriaid apelio yn erbyn penderfyniad a wneir yn ystod pob cam. Bydd raid iddynt esbonio mewn ysgrifen eu rhesymau am anghytuno â'r penderfyniad wrth Swyddog Adborth Cwsmeriaid y Cyngor.

Adolygu

Cynhelir adolygiad cyn pen chwe mis fan bellaf yn dilyn dyddiad y penderfyniad i gyfyngu ar drefrniadau cysylltu'r cwsmeriaid dan sylw, neu roi terfyn arnynt yn gyfan gwbl.

Monitro Ymlynu a Chydymffurfio â'r Polisi

Pwyllgor Safonau'r Cyngor fydd yn monitro ymlynu a chydymffurfio â'r polisi gan Gyfarwyddwyr Gwasanaeth a Grŵp.