Skip to main content

Ailosod Pont Stryd y Nant

Darluniau o'r Bont Arfaethedig

Cliciwch ar y dolenni yma i weld cynllun arfaethedig y bont newydd

Y Cyfnod Adeiladu

Yn ddarostyngedig i sicrhau cyllid pellach, nod yr Awdurdod Lleol yw cychwyn dymchwel ac adeiladu'r bont newydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Gan fod y bont yn cael ei hadeiladu'n agos iawn at y rheilffordd, mae gofyn i'r Awdurdod Lleol weithio ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru (TfW). Mae hyn yn golygu nad oes modd i'r Awdurdod Lleol effeithio ar y gwasanaeth trenau yn ystod y dydd ac felly bydd angen cyflawni'r gwaith yn ystod y nos.

Yn anffodus, os na chaiff pont newydd ei chodi'n fuan, bydd gofyn i ni ei chau'n barhaol.

Rhaglen

Cafodd y rhaglenni dangosol yma eu paratoi ar ôl ymgynghoriad cychwynnol â TfW yn ystod y cam dylunio.

Noder: Mae'r cyfnod adeiladu yn dal i fod yn destun cymeradwyaeth fanwl ynghylch datganiad dull y Contractwr yn yr hydref ac felly gall newid

Gweler cynlluniau manwl y ddwy raglen amgen: lawrlwytho PDF.
Mae'r ddwy raglen wedi'u crynhoi isod;

Rhaglen 1 - Y rhaglen a ffefrir gan y Contractwr, i adfer y cyswllt ar draws yr afon a'r rheilffordd cyn gynted â phosibl ar ôl cychwyn adeiladu'r bont.

Mae pob bar glas ar y rhaglen yn cynrychioli sifft gwaith, naill ai nos neu ddydd, ac fel arfer mae 5 sifft yr wythnos (wedi'u nodi gan 5 bar) drwy gydol y rhaglen. Mae'r bariau glas golau yn dangos sifftiau'r dydd ac mae'r bariau glas tywyllach yn dangos sifftiau'r nos. Bydd sifft ddydd arferol rhwng 8am a 6pm a bydd sifft nos rhwng 11pm a 6am.

Bydd gwaith gyda'r nos yn digwydd rhwng:

1) canol mis Ionawr hyd at ganol mis Chwefror

2) diwedd mis Mawrth hyd at ganol mis Ebrill

3) dechrau mis Mai hyd at ddiwedd mis Mai

4) dechrau mis Mehefin hyd at ddechrau mis Awst

ar sail 5 noson yn olynol gyda dwy noson heb waith dros y penwythnos

Bydd gwaith yn ystod y dydd yn digwydd ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng: 

1) canol mis Ionawr hyd at ddechrau mis Mai

2) dechrau mis Mehefin hyd at ddiwedd mis Mehefin

3) dechrau mis Awst hyd at ganol mis Awst

Fel y gallwch ei weld, er mwyn adfer y cyswllt ar draws yr afon a'r rheilffordd cyn gynted â phosibl, bydd raid gweithio dros sawl noson yn olynol. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn ystod dau fis olaf y rhaglen yn cael ei gyflawni gyda'r nos.

Rhaglen 2 – Cynnig seibiant yn ystod y cyfnodau o sifftiau nos. Fel arfer, os oes 4 sifft nos o waith yn olynol yna, bydd dim gwaith yn ystod y 4 noson wedi hynny, er mwyn cynnig seibiant.

Bydd gwaith yn ystod y nos yn digwydd rhwng:

1) canol mis Ionawr hyd at ddiwedd mis Chwefror

2) canol mis Mawrth hyd at ddiwedd mis Ebrill

3) diwedd mis Mai hyd at ganol mis Medi

ar sail 3 neu 4 noson yn olynol gyda 3 neu 4 noson heb waith dros y penwythnos

Bydd gwaith yn ystod y dydd yn digwydd ddydd Llun tan ddydd Gwener rhwng: 

1) canol mis Ionawr hyd at ddiwedd mis Mai

2) diwedd mis Mehefin hyd at ganol mis Gorffennaf

3) canol mis Medi hyd at ddiwedd mis Medi

Bydd yr ail raglen yma'n para 6 wythnos yn hirach na'r rhaglen gyntaf, a bydd yn tarfu ar y cyswllt ar draws y cwm am 4 wythnos ychwanegol.

Os yw TfW wedyn yn penderfynu bod dim modd cynnal rhai elfennau o waith adeiladu'r bont yn ystod y dydd (tra bo'r trenau'n gweithredu), gallai'r 6 wythnos hynny ymestyn i 7 wythnos a thu hwnt.

Gwasanaeth tacsi newydd

Mae'r bar gwyn ar y ddwy raglen yn dangos pa mor hir fydd dim modd defnyddio'r bont a hyd y gwasanaeth tacsi cylchol fel 'y gwasanaeth newydd' hyd nes bydd y bont newydd ar agor.

Ar gyfer rhaglen 1, fydd dim modd defnyddio'r bont o ganol mis Ebrill hyd at ganol mis Awst.

Ar gyfer rhaglen 2, fydd dim modd defnyddio'r bont o ddiwedd mis Ebrill hyd at ddiwedd mis Medi.

Yn ystod y cam yma, bydd gwasanaeth bws yn cael ei ddarparu (gydag 16 o seddi, lifft i gadeiriau olwyn a lle ar gyfer un gadair olwyn), gan gludo teithwyr yn barhaus o Nant Gwyddon Close, i Orsaf Ton Pentre (ger blaen garej Texaco), maes parcio Gorsaf Ystrad Rhondda i Faes Parcio Gorsaf Llwynypia ac yn ôl eto i Nant Gwyddon Close gan ddilyn cyfeiriad y cloc.

Bydd y gwasanaeth bws mini yma'n cael ei ddarparu dim ond pan fydd y gwasanaeth trenau'n gweithredu a hyd nes bod Pont newydd Stryd y Nant wedi'i hadeiladu.

Bydd y gwasanaeth bws mini yn cludo cwsmeriaid TfW i gwrdd â'r trên cyntaf sy'n teithio tua'r de yn Llwynypia ar ôl codi pobl o Nant Gwyddon Close yn gyntaf. Bydd y gwasanaeth bws yn dilyn cyfeiriad y cloc (gan gymryd tua 30 munud i gwblhau taith lawn) hyd nes 30 munud ar ôl i'r trên olaf sy'n teithio i gyfeiriad y gogledd gyrraedd Llwynypia, gan ddod i ben yn Stryd y Nant.   

Unwaith y bydd y bont wedi'i dymchwel -

Bydd y rheiny sy'n teithio ar y trên tua'r gogledd i Ystrad Rhondda

1)      sydd ddim yn gallu defnyddio grisiau pont droed yr orsaf i Stryd y Nant  

2)      ac sydd am deithio i Nant Gwyddon Close

yn cael gwybod gan TfW ar y trên y bydd angen iddyn nhw adael y trên yn Llwynypia ac aros i'r gwasanaeth bws mini yn y maes parcio a theithio er mwyn i'r bws mini fynd â nhw i'r lleoliadau hynny yn 1) a 2)

Bydd y rheiny sy'n teithio ar y trên tua'r de i Ystrad Rhondda

1)      ac sydd am deithio i Nant Gwyddon Close

angen gadael y trên yn Ystrad Rhondda ac aros i'r bws mini fynd â nhw i Nant Gwyddon Close

Bydd y rheiny sy'n dymuno teithio tua'r gogledd o Ystrad Rhondda

1)      sydd ddim yn gallu defnyddio grisiau pont droed yr orsaf angen aros i'r bws mini yn Ystrad Rhondda er mwyn iddo fynd â nhw i Lwynypia neu Ton Pentre

Gorsaf Drenau Ystrad Rhondda

Bydd yr orsaf drenau yn aros ar agor yn llawn yn ystod y gwaith ar y bont ond bydd y maes parcio yn aros ar gau am y cyfnod. Mae'r bar coch yn y ddwy raglen yn nodi hyn.

Ar gyfer rhaglen 1, fydd dim modd defnyddio'r maes parcio o ddiwedd mis Mawrth hyd at ddechrau mis Awst.

Ar gyfer rhaglen 2, fydd dim modd defnyddio'r maes parcio o ddiwedd mis Mai hyd at ganol mis Medi.

Unwaith y bydd y bont yn cael ei dymchwel ac mae'r gwasanaeth bws mini ar waith, dim ond naill ai drwy risiau pont droed yr orsaf neu o'r Ganolfan Hamdden drwy'r cae pêl-droed y bydd mynediad i blatfform y gogledd.

Dweud eich dweud

Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gosod pont newydd yn ystod y flwyddyn nesaf ond mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod y bydd hyn yn tarfu rhywfaint ar y sawl sy'n defnyddio'r bont yma a'r sawl sy'n byw'n agos. Yn ystod cam cynllunio'r gwaith adeiladu yr hydref yma, bydd y Contractwr a'r Awdurdod Lleol yn ystyried mesurau i liniaru cymaint ar yr aflonyddwch â phosibl. 

A fyddech cystal â'n helpu ni gyda'r broses yma drwy lenwi'r holiadur ar-lein byr yma erbyn 11 Medi.  

Noder - Dim ond ar y cam yma y mae'r Awdurdod Lleol yn ceisio barn a gall materion eraill olygu na fydd modd i ni weithredu'r rhaglen a ffefrir gennych chi.

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch Pont Stryd y Nant, ffoniwch 01443 425014 a gofyn am Lindsay Gauntlett.