Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal o Ddydd Iau 14 Ionawr hyd at Ddydd Iau 4 Chwefror. Ei fwriad yw dangos sut mae modd buddsoddi bron i filiwn o bunnoedd er mwyn gwella'r ardal o amgylch Stag Square, Treorci ar gyfer defnyddwyr y ffordd.
Mae'r buddsoddiad hwn yn dilyn penderfyniad y Cyngor i neilltuo cyllid ar gyfer gwella llif a thagfeydd traffig o amgylch Stag Square, Treorci.
Mae'r ymgynghoriad yn bwriadu amlinellu'r cynlluniau arloesol arfaethedig gan alluogi trigolion a busnesau lleol i fynegi eu barn am y cynigion.
Edrychwch ar y cynlluniau arfaethedig
Bydd arddangosfa yn cael ei chynnal ar Ddydd Iau 21 Ionawr
o 11am tan 8pm yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci. Bwriad yr achlysur hwn yw arddangos yr holl gynlluniau a holi swyddogion.
Yn rhan o'r arddangosfa, bydd cyflwyniadau ychwanegol yn cael eu cynnal am 1pm, 3.30pm a 6.30 pm, i amlinellu'r egwyddorion sy tu ôl i'r cynigion.
Mae fideo byr, sy'n crynhoi'r cynigion hefyd wedi cael ei baratoi.
Mae barn trigolion a busnesau yn bwysig iawn i ni o ran gwneud penderfyniadau ynghylch y cynigion hyn. Felly, mae gwahoddiad i chi i ddweud eich dweud ar-lein:
Llenwch y ffurflen sylwadau ar-lein
Neu, mae ffurflenni papur ar gael o Theatr y Parc a'r Dâr neu Lyfrgell Treorci. Mae modd gollwng y rhain ym mlychau dychwelyd y ddau safle neu eu hanfon at:
Rheolwr Traffig, Tŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU
Llenwch y ffurflen sylwadau ar-lein neu ddychwelyd y ffurflen bapur erbyn Dydd Gwener 5 Chwefror fan pellaf.