Skip to main content

Ymgynghoriad ac Arddangosfa i Stag Square, Treorci

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal o Ddydd Iau 14 Ionawr hyd at Ddydd Iau 4 Chwefror. Ei fwriad yw dangos sut mae modd buddsoddi bron i filiwn o bunnoedd er mwyn gwella'r ardal o amgylch Stag Square, Treorci ar gyfer defnyddwyr y ffordd.

Mae'r buddsoddiad hwn yn dilyn penderfyniad y Cyngor i neilltuo cyllid ar gyfer gwella llif a thagfeydd traffig o amgylch Stag Square, Treorci.

Mae'r ymgynghoriad yn bwriadu amlinellu'r cynlluniau arloesol arfaethedig gan alluogi trigolion a busnesau lleol i fynegi eu barn am y cynigion.

Edrychwch ar y cynlluniau arfaethedig

Stag Square After

Bydd arddangosfa yn cael ei chynnal ar Ddydd Iau 21 Ionawr

o 11am tan 8pm yn Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci. Bwriad yr achlysur hwn yw arddangos yr holl gynlluniau a holi swyddogion.

Yn rhan o'r arddangosfa, bydd cyflwyniadau ychwanegol yn cael eu cynnal am 1pm, 3.30pm a 6.30 pm, i amlinellu'r egwyddorion sy tu ôl i'r cynigion.

 

 

 

Mae fideo byr, sy'n crynhoi'r cynigion hefyd wedi cael ei baratoi.

Mae barn trigolion a busnesau yn bwysig iawn i ni o ran gwneud penderfyniadau ynghylch y cynigion hyn. Felly, mae gwahoddiad i chi i ddweud eich dweud ar-lein:

Llenwch y ffurflen sylwadau ar-lein

Neu, mae ffurflenni papur ar gael o  Theatr y Parc a'r Dâr neu Lyfrgell Treorci. Mae modd gollwng y rhain ym mlychau dychwelyd y ddau safle neu eu hanfon at:

Rheolwr Traffig, Tŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Llenwch y ffurflen sylwadau ar-lein neu ddychwelyd y ffurflen bapur erbyn Dydd Gwener 5 Chwefror fan pellaf.