Bydd y Cyngor yn cyflwyno cynigion cyffrous i wella Parc Gwledig Cwm Dâr! Bydd staff yn ardal y caffi ym Mharc Gwledig Cwm Dâr i gyflwyno'r cynigion i drigolion o 22 tan 25 Hydref 10am-4pm.
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn dymuno ehangu ei gynnig presennol trwy 'Fenter Parciau Rhanbarthol y Cymoedd'; gan fanteisio i'r eithaf ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol asedau treftadaeth diwylliannol a naturiol y Cymoedd. Er ei fod yn gyrchfan ynddo ei hunan, y bwriad yw i Gwm Dâr fod yn fan cychwyn a fydd yn annog pobl leol ac ymwelwyr i grwydro a darganfod y Cymoedd yn eu cyfanrwydd. Mae llawer o gynlluniau newydd a chyffrous ar y gweill ledled Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, 'Zip World', ac felly, dyma gyfle i Gwm Dâr gynnig cysylltiadau a phrofiadau cyffrous a fydd yn atgyfnerthu enw da'r cymoedd yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau awyr agored.
Mae'r Parc yn dymuno annog a chefnogi byw bywyd egnïol a fydd yn gwella iechyd a lles y gymuned leol ac ymwelwyr. Y nod yw sefydlu Cwm Dâr fel canolfan weithgareddau i'r teulu 'cyfan' ei mwynhau, gyda gweithgareddau a phrofiadau sy'n diwallu anghenion unigolion o bob oed a gallu. Mae'r cynllun yn cynnwys elfen o waith adeiladu o'r newydd a chyflwyno cyfleusterau a gweithgareddau newydd, a hynny ochr yn ochr ag adnewyddu, ehangu a gwella'r cyfleusterau presennol ar y safle.
Mae cyflwyno cyfres o lwybrau beic a thraciau ar gyfer beiciau pwmp yn allweddol i'r cynllun. Mae'r rhain yn ceisio gwella ac ehangu'r gweithgareddau sydd ar gael gan ddarparwyr eraill megis 'Bike Park Wales' gan ddarparu ar gyfer teuluoedd yn hytrach na'r selogwr medrus. Yn ogystal â'r llwybrau a'r traciau eu hunain, bydd gwasanaeth llogi beiciau a cherbyd i fynd â chi i'r man uchaf ar gael ar y safle.
Mae adolygiad o'r cyfleusterau presennol wedi'i gynnal ac mae nifer o welliannau wedi'u nodi. Yn rhan o'r datblygiad, bydd darpariaeth chwarae'r Parc yn cael ei chynyddu a'i moderneiddio a bydd modd i blant o bob oed, gan gynnwys y rheiny sydd ag anghenion symudedd neu synhwyraidd arbenigol, ei defnyddio.
Ar hyn o bryd mae'r safle'n cynnig caeau gwersylla ar gyfer carafanau, faniau gwersylla a phebyll. Oherwydd y galw mwy am leiniau carafán a fan gwersylla, bydd y Parc yn ehangu'r cynnig yma. Yn rhan o'r cynlluniau arfaethedig, y bwriad yw creu seiliau a chysylltiadau i ynni ynghyd ag ailwampio ac ehangu'r bloc cawodydd presennol.
Mae Gwesty Cwm Dâr yn boblogaidd iawn, yn enwedig ymhlith grwpiau cymunedol ac ysgolion. O ran dyluniad y gwesty, y bwriad yw ailwampio'r ystafelloedd ymolchi a gwely gyda'r nod o ddenu (ac apelio at) amrywiaeth ehangach o westeion. Mae'r gwaith ailwampio'r ystafelloedd ymolchi yn cael ei gynnwys ar y cam yma o'r gwaith a bydd y gwaith ailwampio'r ystafelloedd gwely yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.
Safle Llogi Beiciau a Darpariaeth Chwarae
Yn rhan o'r cynnig beicio, bydd gwasanaeth llogi beiciau ar gael ar waelod llethr y Gogledd, gyferbyn â'r prif faes parcio ar gyfer ymwelwyr. Ar hyn o bryd, haen isaf y maes gwersylla yw'r safle yma. Ynghyd â'r gwasanaeth llogi beiciau, bydd ciosg bach sy'n gwerthu hufen iâ, diodydd oer a losin.
Wrth greu'r gwasanaethau yma, y bwriad yw gwneud defnydd o nifer o hen gynwysyddion cludo ar long wedi'u gorchuddio â byrddau pren a'u cysgodi gan ganopi to gwyrdd. Bydd nifer fawr o reseli beic diogel ar gael a fydd yn hwyluso'r broses o gasglu a dychwelyd y beiciau. Bydd y rhain yn ddefnyddiol hefyd fel lle i ymwelwyr gadw eu beiciau yn ddiogel wrth aros am gludiant i'r man uchaf neu wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn y parc. Bydd lôn feicio a llwybr troed addas hefyd yn cael eu creu a fydd yn rhedeg o'r prif faes parcio i'r safle llogi beiciau. Bydd hyn yn gwahanu cerddwyr oddi wrth gerbydau sy'n cyrraedd.
Mae gan Gwm Dâr barc chwarae eisoes sy'n boblogaidd iawn ond mae angen gwaith datblygu arno. Y bwriad yw dylunio'r ardal fel bydd y mannau chwarae yn cydgysylltu â'i gilydd. Bydd hyn yn annog chwarae sy'n addas at oedran a gallu heb gadw'r plant sy'n eu defnyddio ar wahân. Bydd y cyfarpar chwarae yn annog heriau corfforol sy'n cynnwys sgiliau sy'n ymwneud ag arbrofi, cadw cydbwysedd a dringo. Bydd y trefniadau yn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i rieni gadw llygad ar eu plant ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol cymaint ag y bo modd. Mae'r cyfarpar sydd wedi cael ei ddewis yn gweddu i dirwedd naturiol brydferth y parc - yn hytrach na deunydd plastig a metel lliwgar, bydd lliwiau a phrennau naturiol yn cael eu defnyddio.
Llwybrau Beicio a Thraciau ar gyfer Beiciau Pwmp
Bydd y llwybrau beicio ar lethr Mynydd Penrhiwllech sy'n wynebu'r Gogledd, yn union gyferbyn â'r Ganolfan Ymwelwyr bresennol ar ochr ddeheuol y safle. Bydd modd cyrraedd y llwybrau beicio drwy wasanaeth cludo i'r man uchaf. Bydd hynny'n gofyn am drac ar wahân i'r llwybr ar gyfer cerbydau er mwyn sicrhau diogelwch. Bydd y gwasanaeth yn cludo beicwyr i fan uchaf y llwybrau (tua 100 metr o uchder).
Bydd y man casglu ar gyfer cludiant i'r man uchaf wrth ochr y safle llogi beiciau a bydd parth pwrpasol ar gyfer parcio bysiau mini. Bydd hyn yn cynnig ardal ddiogel i ymwelwyr tra eu bod nhw'n aros, i ffwrdd o draffig y safle. Bydd hefyd yn fan canolog ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth. Ar hyn o bryd, mae llwybr ar gyfer cerbydau sy'n mynd rhan o'r ffordd i fyny llethr y Gogledd. Bydd y llwybr yma'n cael ei ymestyn a bydd wyneb newydd yn cael ei osod arno fel bydd modd i fysiau mini ac ôl-gerbydau gyrraedd y man disgyn ar gyfer y gwasanaeth cludo i'r man uchaf.
Bydd y llwybrau'n cael eu sefydlu fel categori 'gwyrdd' (lefel mynediad) ac yn troelli i lawr y mynydd gan fanteisio i'r eithaf ar y tir a'r golygfeydd ar hyd y llwybr. Er na fydd y rhain yn cael eu hadeiladau ar y dechrau, mae cynlluniau ar y gweill i greu nifer o lwybrau dolennog ychwanegol categori glas. Bydd y rhain yn darparu her ar gyfer oedolion neu'r rheiny yn y teulu sy'n fwy profiadol wrth i sgiliau'r beicwyr ddatblygu.
Yn ogystal â'r prif lwybrau beic, bydd 4 trac ar gyfer beiciau pwmp yn cael eu creu a phob un â chynllun unigryw. Bydd y rhain mewn llecynnau ac ar lethrau gwahanol ar hyd y llwybr. Ar wynebau'r rhain, bydd deunyddiau gwahanol yn cael eu gosod. Er enghraifft, bydd y trac sydd agosaf at y Ganolfan i Ymwelwyr yn cael wyneb asphalt fel bydd modd defnyddio sglefrfyrddau, esgidiau sglefrio a sgwteri, yn ogystal â beiciau. Wrth ymyl y trac beiciau pwmp yma, bydd trac baw llai, sy'n addas ar gyfer cerbydau chwarae â modur y mae angen darnau arian neu docynnau i'w defnyddio (e.e ceir, cerbydau 4x4 a beiciau cwad).
Ailwampio'r Gwesty
Ar y safle, mae gwesty sy'n cael ei redeg yn annibynnol ac sy'n llwyddo i ddenu ymwelwyr i'r ardal. Er bod ymwelwyr a grwpiau o bobl o bob math yn dod i aros yn y gwesty, mae'n arbennig o boblogaidd gyda grwpiau mawr megis ysgolion, colegau a grwpiau cymuned lleol. Mae i'r gwesty un ar bymtheg o ystafelloedd gwely gyda lle i hyd at bedwar neu bump o bobl ymhob un. Er bod gan y gwesty sgoriau uchel ar 'Trip Advisor', mae sylwadau yn cael eu rhoi ynglŷn â safon y cyfleusterau, yn arbennig yr ystafelloedd ymolchi. Does dim llawer o waith ailwampio wedi cael ei wneud yn yr ystafelloedd yma ers agor y gwesty a pheth da fyddai eu moderneiddio.
Bydd yr ystafelloedd ymolchi yn cael eu hailwampio'n llawn; bydd toiledau, basnau a ffitiadau cawod newydd yn cael eu gosod a bydd y system dŵr poeth yn cael ei hatgyweirio a'i gwella. Bydd yr ystafelloedd gwely yn cael eu hail-addurno mewn modd sy'n gweddu i 'frand' newydd Cwm Dâr.
Gwaith Gwella'r Gwersyllfan
Ar hyn o bryd mae'r safle'n cynnig lleiniau gwersylla ar gyfer carafanau teithiol, faniau gwersylla a phebyll. Oherwydd y galw mwy am leiniau carafan a fan gwersylla, mae'r Parc yn dymuno ehangu'r cynnig yma. Ar ochr ogleddol y safle, mae'r haen wersylla isaf yn cael ei hailddatblygu er mwyn creu lle ar gyfer y Safle Llogi Beiciau a'r trac cyfagos ar gyfer beiciau pwmp. Oherwydd hynny, bydd yr haen uchaf (ar gyfer gwersylla) yn cael ei gwella fel ei bod o'r un safon â'r haen wersylla ganol bresennol. Bydd angen cynnal gwaith i osod sylfeini 'grass-crete' mwy cadarn ar gyfer cerbydau gwersylla. Bydd cysylltiadau cyfleustodau, sydd o'r un safon â'r rheiny sydd ar yr haen is, hefyd yn cael eu darparu.
Mae angen ymestyn y bloc cawodydd presennol er mwyn darparu gwell cyfleusterau ar gyfer teuluoedd a defnyddwyr sydd â phroblemau symudedd. Y cynnig yw y bydd dwy ystafell newid ychwanegol yn cael eu hadeiladu ar gyfer teuluoedd (ar wahân i floc y menywod a bloc y dynion). Bydd modd mynd â chadeiriau gwthio, cadeiriau olwyn a bygis i mewn i'r rhain. Bydd un o'r ystafelloedd newydd yma'n darparu cyfleusterau ar gyfer pobl anabl, er enghraifft, teclyn codi sy'n sownd wrth y nenfwd a bwrdd newid sy'n ddigon mawr i oedolion.
Er bod y bloc presennol yn addas, mae angen ei ddiweddaru a dydy'r cynllun ddim yn ymarferol. Bydd toiledau, basnau, cawodydd a systemau ciwbicl newydd a mwy modern yn cael eu gosod. Bydd wyneb finyl newydd yn cael ei osod ar y lloriau a bydd y cladin ar y waliau a'r nenfydau yn cael eu hadnewyddu.