Skip to main content

Cynigion ar gyfer y gwasanaeth Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol

Mae disgwyl i'r Cabinet drafod argymhellion i ymgynghori ar gynigion i gyflwyno tâl bychan am Ofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol a gynigir gan rai ysgolion cynradd. Mae rhai ysgolion yn darparu sesiwn gofal plant rhad ac am ddim cyn y clwb brecwast, gyda'r rhan fwyaf o leoliadau fel arfer yn gweithredu rhwng 8.00am a 9.00am. Fydd y cynigion yma ddim yn cael effaith ar fynediad am ddim i glwb brecwast i bob disgybl oedran ysgol gynradd.

Ddylai ysgolion ddim, a fyddan nhw ddim, yn codi tâl am unrhyw ran o'r brecwast am ddim. Serch hynny, mae modd i ysgolion godi tâl am Ofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol cyn i'r sesiwn brecwast am ddim ddechrau. Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘gofal plant cofleidiol’ neu Ofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol. Ar hyn o bryd, nid yw hwn yn wasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan bob ysgol.

Darpariaeth ar hyn o bryd:

  • Mae hawl gyda phob plentyn sy’n mynd i ysgol gynradd a gynhelir gan awdurdod lleol i gael brecwast am ddim yn yr ysgol, gyda holl ysgolion cynradd Rhondda Cynon Taf yn darparu clybiau brecwast (92 Ysgol Gynradd, 3 Ysgol Arbennig).
  •  Yn gyffredinol, mae brecwast ar gael yn ystod yr hanner awr cyn i'r ysgol ddechrau.
  •  Yn gyffredinol, mae Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol ar gael ochr yn ochr â/cyn y Clwb Brecwast yn yr ysgol.
  • Ym mis Medi 2023, roedd 5,096 o ddisgyblion yn manteisio ar ddarpariaeth y Clybiau Brecwast.
  • Mae'r gost o ddarparu Clybiau Brecwast wedi cynyddu £400,000 ers 2019.

Newidiadau arfaethedig:

Ar gyfer rhieni sy'n dymuno gwneud defnydd o'r Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol (sydd ar gael rhwng 8.00am a 9.00am yn gyffredinol), bydd tâl o £60 y tymor, sy'n sylweddol is na darparwyr preifat.

Bydd yr holl incwm a gynhyrchir yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i gyllidebau'r ysgolion.

Rhoddir eithriad i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a bydd consesiwn/terfyn yn cael ei ystyried, gan ystyried adborth yr ymgynghoriad.

Byddai'r tâl tymhorol yn daladwy ymlaen llaw bob tymor ac ni fyddai modd ei ad-dalu.

Bydd brecwast iach yn parhau i fod ar gael yn rhad ac am ddim i ddisgyblion oed cynradd.

Mae modd i chi ddod o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin am y cynnig hwn, yma.

Mae modd dod o hyd i ragor o fanylion am y cynnig yn adroddiad llawn y Cabinet, yma.

Pe hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y cynnig hwn, ewch i wefan y Cyngor, yma.

Tudalennau Perthnasol