Bydd y Cyngor allan yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf dros yr Haf i siarad â thrigolion am ystod o bynciau. 
 
Byddwn ni'n adrodd yn ôl ar ymgynghoriad y Gyllideb a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni, gan edrych ar ble mae buddsoddiadau'r gyllideb yn digwydd, yn ogystal â gofyn i chi sut brofiad yw byw yn Rhondda Cynon Taf.
Byddwn ni hefyd yn recriwtio aelodau newydd i Banel y Dinasyddion. Dyma grŵp o drigolion rydyn ni'n cysylltu â nhw pan fydd angen i ni ymgynghori â thrigolion ar newidiadau i wasanaethau allweddol neu benderfyniadau'r Cyngor.
Mae'r achlysuron canlynol wedi'u cynllunio:
| MEDI | LLEOLIAD | 
|---|
| 7/9/2018 | Llyfrgell Glynrhedynog – o 10am tan 12pm | 
| 13/9/2018 | Llyfrgell Llantrisant – o 2pm tan 4pm | 
| 14/8/2018 | Llyn Cwm Clydach 1pm - 3pm | 
| 21/8/2018 | Llyfrgell Rhydfelen – o 10am tan 12pm |