Mae pobl ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar sut mae sefydliadau'n ymateb i bryderon sy'n cael eu codi am rywun sy'n gweithio gyda phlant, neu'n gwirfoddoli â nhw.
Bydd arolygiad ar y cyd yn cael ei gynnal yn Rhondda Cynon Taf ym mis Ionawr 2027 i archwilio sut mae sefydliadau lleol yn cydweithio pan fydd honiad neu bryder yn cael ei godi mewn perthynas ag ymarferydd neu berson arall sydd mewn swydd gyfrifol.
Mae modd i hyn gynnwys rhywun sy'n gweithio gyda phlant, neu'n gwirfoddoli â nhw, ym maes addysg, gofal cymdeithasol, iechyd, plismona, gofal plant, chwaraeon, grŵp cymunedol, elusen neu wasanaeth arall.
Bydd yr arolygiad yn ystyried a yw pryderon yn cael eu rheoli mewn modd diogel, teg, cyson a chyfreithlon, ac a ydyn ni'n gwrando ar y plant a'r bobl sy'n cael eu heffeithio, ac yn sicrhau bod yr holl wybodaeth gyda nhw a'u bod nhw'n cael eu cefnogi.
Mae'r trefniadau yma wedi'u nodi'n ffurfiol yn Adran 5 o Weithdrefnau Diogelu Cymru.
Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi yn cynnal yr arolygiad ar y cyd. Cyn i'r arolygiad gael ei gynnal, maen nhw'n awyddus i glywed gan bobl yn Rhondda Cynon Taf ynglŷn â sut mae'r trefniadau diogelu yma'n gweithio'n lleol.
Arolwg ar gyfer trigolion, ymarferwyr a phobl mewn swyddi cyfrifol
Mae modd i chi gymryd rhan os oes gyda chi farn neu brofiad o sut mae pryderon am rywun sy'n gweithio gyda phlant, neu sy'n gwirfoddoli â phlant, yn cael eu trin.
Mae'r arolwg:
- Yn ddienw
- Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Mae disgwyl i'r arolwg gymryd 10 munud i'w gwblhau.
Cwblhewch yr arolwg diogelu cyffredinol
Arolygon i Blant a Phobl Ifainc
Mae plant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn cael eu gwahodd i rannu eu profiadau nhw o deimlo'n ddiogel, cael eu cefnogi a chael dweud eu dweud yn yr ysgol.
Dewiswch yr arolwg priodol:
Arolwg Diogel a Hapus yn yr Ysgol ar gyfer plant 5-11 oed
Diogelwch, Cymorth ac Ymddiriedaeth: Arolwg Eich Profiad Chi ar gyfer pobl ifainc 11-16 oed
Dylai plant a phobl ifainc gwblhau'r arolwg sy'n berthnasol iddyn nhw.
Angen cyfle i sgwrsio â rhywun?
Mae modd i feddwl neu siarad am faterion diogelu godi meddyliau, teimladau, atgofion neu brofiadau anodd.
Os ydych chi'n 25 oed neu'n iau ac eisiau cymorth neu help i gwblhau arolwg, mae modd i chi gysylltu â Meic:
- Ffôn neu WhatsApp: 080 880 23456
- Anfonwch neges destun i: 07943 114 449
- Sgwrs ar-lein: www.meic.cymru
Bydd unrhyw beth sy'n cael ei drafod gyda Meic yn cael ei drin yn gyfrinachol ac yn ddienw yn unol â'u polisïau a gweithdrefnau.
Os ydych chi'n poeni bod rhywun mewn perygl uniongyrchol
Bydd eich atebion yn cael eu rhannu â'r garfan arolygu. Ddylech chi ddim defnyddio'r arolwg i roi gwybod am fater diogelu brys neu i ofyn am gymorth brys.
Mae cyfrifoldeb ar unrhyw berson sydd â phryderon ynghylch diogelwch plentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, neu ymddygiad gweithiwr tuag at blentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, i roi gwybod am ei bryderon:
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i wefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg: Bwrdd Diogelu | Diogelu, Cwm Taf Morgannwg