Rydyn ni eisiau clywed eich barn a'ch meddyliau chi ar gynlluniau i wella llesiant pobl a chymunedau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae Rhondda Cynon Taf yn rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf. Mae'r Bwrdd yma'n rhan o bartneriaeth sy'n cynnwys holl sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Maen nhw'n gweithio'n agos er mwyn gwella bywydau'r rheiny sy'n byw a gweithio yng Nghwm Taf, ac sy'n ymweld ag ef. Mae'r Bwrdd wedi paratoi drafft o Gynllun Llesiant Cwm Taf sy'n cynnwys amcanion llesiant y cynllun. Mae'r amcanion yma'n disgrifio beth allai gael ei wneud gan gyrff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n gweithio gyda'i gilydd er mwyn gwella llesiant diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol y bobl a'r cymunedau. Mae pob partner corff y sector cyhoeddus yn gofyn i bobl, cymunedau, aelodau etholedig a staff am eu barn ynglŷn â beth allai gael ei wneud yn well. Rydyn ni'n trefnu nifer o achlysuron er mwyn casglu barn y preswylwyr, grwpiau cymunedol, staff, cynghorwyr, busnesau, partneriaid y sector cyhoeddus ac unrhyw un arall sydd eisiau dweud ei ddweud.
Mae drafft o'r Cynllun wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Bwrdd y Sector Cyhoeddus 'Ein Cwm Taf'. Mae yna arolwg byr er mwyn casglu'ch meddyliau a'ch syniadau. I'r rheiny sy'n rhan o grwpiau neu glybiau cymunedol, mae modd i chi ddefnyddio'r arolwg yma i gasglu sgyrsiau ac/neu gynrychioli barn y grwpiau yma
Os oes well gyda chi gwblhau ymateb ar bapur neu os oes gyda chi unrhyw ofynion hygyrchedd ychwanegol, ffoniwch 01685 351440.
Nodwch, rhaid derbyn unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad yma erbyn 19 Rhagfyr 2017.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben 19 Rhagfyr, 2017.