Skip to main content

Canolfannau Hamdden a Chyfleusterau Hamdden Awyr Agored

 
Mae rhaglen BuddsoddiadRhCT yn rhoi cymorth i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden a chaeau awyr agored ledled RhCT drwy fuddsoddi £1.7 miliwn.

Bydd pedwar canolfan hamdden yn elwa o raglen BuddsoddiadRhCT. Bydd campfeydd modern newydd, derbynfeydd croesawgar a chyfleusterau eraill oll yn cael eu datblygu er budd aelodau o'r cynllun HamddenAmOes ac ymwelwyr achlysurol.

Mae cynlluniau i uwchraddio tri chae pob tywydd yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái yn gaeau 3g er budd clybiau a chymunedau lleol. Bydd y Cyngor hefyd yn rhoi arian, yn rhan o FuddsoddiadRhCT, er mwyn datblygu wyneb chwarae 4G ar Gae Rygbi Sardis Road er budd Clwb Rygbi Pontypridd, Coleg y Cymoedd a chlybiau a chymunedau chwaraeon lleol.

Mae'r buddsoddiad yma, ynghyd â'r aelodaeth hamdden syml a rhad newydd HamddenAmOes, yn dod yn sgil ymrwymiad y Cabinet i fuddsoddi mewn gwella darpariaeth hamdden y Cyngor. Drwy hyn, gall gystadlu â'r sector preifat a sicrhau cynaladwyedd gwasanaethau hamdden RhCT.

Dysgwch fwy am gynllun aelodaeth Leisure4Life y cyngor a sut y gallai fod o fudd i chi.

Eich milltir sgwâr
Rhowch eich cod post i weld sut mae eich ardal leol yn elwa o'r buddsoddiad gwerth £200 miliwn. 

Nodwch eich cyfeiriad i weld y canlyniadau