Beth yw Trosglwyddo Asedau Cymunedol?
Yn RhCT, mae'n cynnwys trosglwyddo rheolaeth adeiladau a/neu dir y Cyngor i sefydliad cymunedol “nid er elw personol”, menter gymdeithasol neu Gyngor Tref a Chymuned. Efallai y bydd ystod o gytundebau ar gael (a bennir fesul achos) a allai gynnwys:
- Cytundeb Rheoli
- Tenantiaeth wrth Ewyllys
- Trwydded
- Prydles Tymor Byr
- Prydles Tymor Hir (dewis diofyn Cyngor RhCT)
Ym mha ffordd mae modd i drosglwyddo asedau cymunedol fod yn fuddiol i gymunedau lleol?
Mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn golygu bod modd i'r gymuned fod yn berchen ar a / neu reoli cyfleusterau nad oes eu hangen ar y Cyngor neu y gellir eu cau neu eu gwaredu fel arall os nad oes modd i'r Awdurdod Lleol eu hariannu mwyach.
Mae modd i Drosglwyddo Asedau Cymunedol gefnogi arloesedd lleol, gweithredu yn y gymuned ac atebion dan arweiniad trigolion. Mae modd iddyn nhw hefyd alluogi grwpiau i gael gafael ar gyllid na fyddai modd i gyrff cyhoeddus ei gael o bosibl. Gall fod yn llwybr dilys i rymuso a galluogi cymunedau lleol i lunio eu cymdogaethau lleol gan ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n bwysig i bob cymuned.
Nodau Trosglwyddo Asedau Cymunedol o Gyngor Rhondda Cynon Taf yw:
- Annog cymunedau a grwpiau lleol (rhai newydd neu rai sy'n bodoli eisoes) i ddod yn ddinasyddion grymus a gweithredol trwy ddarparu gwasanaethau a rheoli adeiladau lleol yn eu cymunedau.
- Datblygu gallu'r gymuned a hyrwyddo trefnau rhannu'r adeiladau cymunedol rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol drwy ddefnyddio dull cyd-weithio.
- Diogelu a gwarchod lleoedd, adeiladau a gwasanaethau lleol gwerthfawr at ddefnydd a budd cymunedol.
- Gwneud y mwyaf o werth cymdeithasol, h.y. gwerth y pwysigrwydd y mae pobl yn ei roi ar y newidiadau cadarnhaol maen nhw'n eu profi yn eu bywydau.
Proses Trosglwyddo Asedau Cymunedol
Os oes gyda chi syniad neu gynnig ar gyfer Adeilad y Cyngor, ebostiwch Carfan RhCT Gyda'n Gilydd RhCTGydanGilydd@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425368 neu cwblhewch y Ffurflen “Datgan Diddordeb”.
Trawsnewid Ein Hasedau Cymunedol
Mae enghreifftiau gyda ni yn RhCT lle mae grwpiau wedi trawsnewid ac adfywio hen adeiladau a mannau'r Cyngor ac wedi defnyddio'r asedau yma i ddarparu gwasanaethau sy'n cefnogi iechyd, lles, dysgu a ffyniant pobl.
Mae grwpiau wedi gweithio gyda chyllidwyr, carfanau’r sector cyhoeddus ac asiantaethau cymorth y sector gwirfoddol i sicrhau newid cadarnhaol.
Grŵp Pwll Gerddi Lee
Amgueddfa Cwm Cynon
Hwb Glynrhedynog
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd asedau cymunedol ac mae ganddi ymrwymiad penodol “
i weithio gyda chymunedau i helpu i gynnal adnoddau lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd, gan gynnwys llyfrgelloedd, amgueddfeydd, mannau gwyrdd, canolfannau'r celfyddydau a chanolfannau hamdden, gan helpu