Skip to main content

Cronfa Partneriaeth Gymunedol

Nod y Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Gronfa Partneriaeth Gymunedol yw cynnal lleoliadau ac asedau sy'n darparu cymorth i drigolion Rhondda Cynon Taf, gyda phwyslais parhaus ar fynd i'r afael â thlodi, cryfhau cymunedau a lliniaru effaith barhaus costau byw.

Mae'r Gronfa'n dwyn ynghyd gyllid gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â buddsoddiad cyfalaf gan Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU. Bydd y grantiau'n cefnogi prosiectau sy'n:

  • Gwella neu gynnal mannau a chyfleusterau cymunedol
  • Darparu lleoedd diogel, cynnes a chroesawgar i drigolion
  • Cryfhau cefnogaeth bwyd gymunedol a mynd i'r afael â thlodi bwyd
  • Meithrin cydnerthedd cymunedol drwy gydweithio, gweithgareddau a chefnogaeth

Mae cyllid cyfalaf a refeniw ar gael, gyda grantiau'n amrywio o £2,000 i £10,000. Rhaid i geisiadau prosiect sicrhau cyllid cyfatebol, cyflwyno cynlluniau cynaliadwyedd cadarn, a dangos deilliannau clir i bobl leol.

Caiff y Gronfa ei gweinyddu gan y Gwasanaeth Cymorth Cynnar a Rhaglenni Cymunedol, gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud gan banel traws-gyngor a chymunedol.

Mae'r Gronfa Partneriaeth Gymunedol wedi cymeradwyo cyllid Cyfalaf gwerth £200,000 a chyllid Refeniw gwerth £200,000 ar gyfer 2026-27. Bydd rownd arall i ddilyn yn 2027-28.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Mae'r Gronfa ar gael i sefydliadau nid er elw personol yn y Trydydd Sector a'r Sector Gwirfoddol.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth bod ganddyn nhw:

  • Cyfansoddiad neu ddogfen lywodraethu
  • Cyfrif Banc yn enw'r sefydliad
  • o leiaf 2 lofnodwr awdurdodedig ar wahân (ddim o'r un teulu).

Grantiau sydd ar gael:

  • Dyfarniad Lefel Is - £2,000 i £5,000
  • Dyfarniad Lefel Uwch - £5,001 i £10,000

Cyllid Cyfatebol - Ar gyfer grantiau Lefel Is hyd at £5,000 mae angen o leiaf 10% o gyllid cyfatebol. Ar gyfer grantiau Lefel Uwch hyd at £10,000 mae angen o leiaf 20% o gyllid cyfatebol. O'r herwydd, bydd cyfanswm y gost yn fwy na chyfanswm y grant rydych chi'n gwneud cais amdano.

Rydyn ni'n annog sefydliadau sy'n pryderu am eu gallu i fodloni'r gofynion cyllid cyfatebol gofynnol i gysylltu â Interlink Rhondda Cynon Taf drwy e-bostio communityadvice@interlinkrct.org.uk. Mae Interlink Rhondda Cynon Taf yn gallu cynnig cyngor a thrafod opsiynau i'ch helpu i gyflawni hyn.

Y tro yma, bydd ceisiadau'n agor ar 11 Mai 2026 am 9.30am ac yn cau ar 29 Mai 2026 am 5pm.

 

Yn dilyn y cyfnod ymgeisio, sy'n dod i ben ar 29 Mai 2026, bydd Aelodau'r Rhwydwaith Cymdogaeth yn cynnal pleidlais. Bydd aelodau presennol y Rhwydwaith Cymdogaeth yn cael eu gwahodd i weld y prosiectau sydd wedi'u cynnig yn eu hardal leol nhw ac yn dewis eu hoff brosiectau (cyfanswm o 5 prosiect).

Bydd modd i aelodau weld enw'r prosiect a chrynodeb 50 gair.

Bydd y cyfnod pleidleisio yn cael ei gynnal rhwng 8 a 12 Mehefin 2026. Bydd y canlyniadau'n cael eu trafod gan y Panel Penderfynu Llawn yn ystod yr asesiad sgorio terfynol.

Cliciwch yma i wneud cais:

 Ffurflen Gais (ar-lein)

Adolygwch y Canllawiau i Ymgeiswyr a dogfennau eraill isod:

I ofyn am gyngor neu gymorth e-bostiwch - llenyddiaethagrantiaucymunedol@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425368