Mae RhCT Gyda'n Gilydd yn gweithio gyda busnesau a chorfforaethau sy'n gwerthfawrogi cymunedau ar draws. Rhondda Cynon Taf a'r cyfraniad ystyrlon y mae grwpiau a sefydliadau yn y gymuned yn ei wneud yn lleol.
Prosiectau sydd wedi'u noddi gan EEM:
Defnyddiwyd cyllid i sefydlu clwb brecwast â chymhorthdal ac mae croeso i bobl o bob oed fynd yno i fwynhau pryd o fwyd boreol gyda'i gilydd tra'n meithrin cysylltiadau cymdeithasol. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd ochr yn ochr â chreu cysylltiadau rhwng cenedlaethau. Mae brecwastau poeth gyda thost, te a choffi ar gael am dâl bychan gyda chyfle i'w "dalu ymlaen" os dymunir.
‘Mae gallu cael brecwast hyfryd a fforddiadwy cyn i mi fynd i’r pantri bwyd yn wych’

Mae cyllid wedi cefnogi datblygiad a thwf pellach y Clwb Iechyd a Lles. Mae’r prosiect yn mynd i’r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd gan gynnig lle cynnes, cyfeillgar ac anfeirniadol i bobl ddod i wneud ffrindiau tra’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys crefftau, ymarfer corff, coginio, garddio a chanu. Mae'r clwb am ddim i'w fynychu ac yn hygyrch i bawb. Mae'r sesiynau'n digwydd ddwywaith yr wythnos.
“Mae’r gweithgaredd yma wedi gwneud i mi wenu, mae wedi bod yn wych dod at ein gilydd gyda phobl eraill adeg y Nadolig. Does gan bawb ddim teulu i dreulio amser gyda nhw, dyma fy un i.”
Mae cyllid wedi caniatáu i'r sefydliad yma gynnal amrywiaeth o weithdai crefft tymhorol a Nadoligaidd sy'n ymgysylltu â'r gymuned leol, gan feithrin creadigrwydd a chysylltiadau cymdeithasol. Mae’r gweithdai’n dathlu traddodiadau diwylliannol sy’n gysylltiedig â’r tymhorau gan roi cyfleoedd i bobl leol o bob oed ddod at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd. Trwy weithgareddau ymarferol mae cyfle i gyfranogwyr gryfhau cysylltiadau yn y gymuned wrth archwilio eu potensial artistig.
“Ers mynychu’r sesiynau iechyd a lles yn aml, rwy’n teimlo’n fwy parod ac yn fwy abl i ymdopi â'r straen ddyddiol o ofalu am aelod o’r teulu. Y peth pwysicaf i mi oedd fod y grŵp ddim yn benodol i ddementia a doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn cael fy ngwahaniaethu. Doedd neb yn gwybod fy mod i'n gynhaliwr oni bai i mi ddweud wrthyn nhw a doedd neb yn gwybod bod gan fy mam ddementia. Roedd y cymorth a gefais a'r wybodaeth a enillais yn hanfodol ar gyfer ffordd o fyw well i'r ddau ohonon ni".