Mae'r Grant Urddas Mislif mewn Cymunedau yn fenter i ddarparu cynhyrchion mislif i'r rheiny sy'n wynebu rhwystrau ariannol neu emosiynol.
Gwybodaeth Allweddol:
Mae grantiau ar gael i grwpiau cymunedol sydd â'r gallu i storio cynhyrchion ac sy'n rhoi cymorth uniongyrchol i'r rhai a fydd yn elwa ohonyn nhw.
Caiff Cynhyrchion Mislif eu darparu mewn bwndel. Mae 81% o'r cynhyrchion yma yn gyfeillgar i'r hinsawdd ac/neu'n eco-gyfeillgar.
Bydd gofyn i grwpiau sydd eisiau derbyn bwndel i'w rhannu yn y gymuned gytuno â thelerau ac amodau, gan nodi eu bod nhw’n:
- Cytuno i ddarparu cynhyrchion am ddim i'w defnyddio.
- Cytuno i fynychu Gweithdy Eitemau y mae modd eu Hailddefnyddio. Bydd hyn naill ai wyneb-yn-wyneb neu ar-lein.
- Cytuno i hysbysebu eich lleoliad chi ar wefan y Cyngor.
Mae Cynhyrchion Urddas Mislif ar gael ledled Rhondda Cynon Taf, dysgwch lle i gael gafael ar y cynnyrch yma.
Os hoffech chi gael gwybod rhagor, mynnwch air ag aelod o Garfan RhCT Gyda'n Gilydd: rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk / 01443 42536.