Skip to main content

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Microgrant Cymunedol CBSRhCT

Dyma'r rhestr lawn o 2025 gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Microgrant Cymunedol CBSRhCT.
Nodwch: Mae'r Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU - Microgrant Cymunedol CBSRhCT bellach ar gau.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.  Diben y gronfa yw annog trigolion i ymfalchïo yn eu cymunedau lleol a chynnig cyfleoedd bywyd gwell i bobl ledled y DU trwy fuddsoddi mewn cymunedau a chefnogi busnesau, pobl a sgiliau. Mae grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer Gweithgareddau Haf ar gael ar gyfer grwpiau cymuned yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd derbyn hyd at £750 i gynnal prosiectau yn Rhondda Cynon Taf rhwng 1 Gorffennaf a 5 Medi 2025. 

Bydd y flaenoriaeth buddsoddi yn galluogi lleoedd i fuddsoddi i adfer eu mannau cymunedol a'u perthnasau a chreu'r sylfeini ar gyfer datblygiad economaidd ar lefel gymdogaeth. Bwriad hyn yw cryfhau gwead cymdeithasol yn y gymuned, gan annog ymdeimlad o falchder yn y gymuned.

Dyma'r amcanion:

  • Cryfhau ein gwead cymdeithasol a mabwysiadu ymdeimlad o falchder lleol, a hynny drwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy'n gwella cysylltiadau corfforol, diwylliannol a chymdeithasol a mynediad at amwynderau, megis isadeiledd cymunedol a mannau gwyrdd lleol, a phrosiectau a gaiff eu harwain gan y gymuned.
  • Adeiladu cymdogaethau cydnerth, iach a diogel drwy fuddsoddi mewn lleoedd o ansawdd yr hoffai pobl fyw, gweithio, chwarae a dysgu ynddyn nhw, drwy welliannau wedi'u targedu i'r amgylchedd adeiledig a naturiol a dulliau arloesol i atal troseddau.

Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yma: https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Yn Rhondda Cynon Taf

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn gyfle i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fuddsoddi mewn adeiladau ac isadeiledd i adfer mannau cymunedol a pherthnasoedd, a gosod seiliau ar gyfer datblygiadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yn ein cymunedau.

Os oes angen cymorth neu os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, ffoniwch 01443 425368 neu e-bostio GrantCymunedolCFfGCBSRhCT@rctcbc.gov.uk