Mae grantiau bach ar gael i grwpiau cymuned sy'n aelod o'r Rhwydweithiau Cymdogaeth.
Nodwch: Mae'r Cronfa Rhwydwaith Cymdogaeth bellach ar gau. Mae’n bosibl y bydd yn ailagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn os bydd rhagor o arian ar gael.
Am ragor o wybodaeth am waith y Rhwydwaith Cymdogaeth yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Cydlynydd Cymunedol lleol.
Dyma rai enghreifftiau:
- Gweithgareddau ar gyfer grwpiau penodol o drigolion yn y gymuned (er enghraifft trigolion dros 50 oed, gweithgareddau sy'n addas i drigolion sydd â Dementia, yn addas i drigolion sydd ag Awtistiaeth)
- Costau/adnoddau ar gyfer prosiectau
- Darnau bach o offer
- Llogi cyfleusterau
- Gweithgareddau er mwyn lleddfu unigrwydd ac unigedd
- Achlysuron
Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr. Gofynnwch i aelod o'r garfan os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi.
Mae grantiau o hyd at £1000 ar gael.
- Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad ei gais wrth i ni geisio sicrhau tegwch ledled y sir, yn ddaearyddol.
- Mae pob grant yn destun telerau ac amodau a gofynion adrodd