Nodwch: Mae'r Gronfa Cymorth Bwyd RhCT bellach ar gau. Mae’n bosibl y bydd yn ailagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn os bydd rhagor o arian ar gael.
Mae'r Gronfa Cymorth Bwyd wedi'i sefydlu i ddarparu adnoddau i fanciau bwyd a phrosiectau cymorth bwyd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod pandemig Covid-19.
Gwybodaeth Allweddol:
Mae'r grant ar gael i sefydliadau sydd/fydd yn:
- Rhoi Cymorth Bwyd Uniongyrchol i drigolion RhCT
Mae modd i'r Gronfa Cymorth Bwyd roi cymorth i'ch sefydliad gyda:
- Costau bwyd
- Costau eraill sydd ddim yn ymwneud â staffio sy'n cefnogi darparu bwyd i drigolion.
Mae grantiau o hyd at £1000 ar gael.
Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad ei gais wrth i ni geisio sicrhau tegwch ledled y sir, yn ddaearyddol.