Skip to main content

Cydlynwyr Datblygu'r Gymuned Newydd

Mae Carfan Datblygu'r Gymuned yn falch o groesawu dau Gydlynydd newydd a fydd wedi'u lleoli yn ardaloedd Cwm Rhondda a Chwm Cynon yn y Fwrdeistref Sirol. Byddan nhw'n cydlynu'r ymateb i anghenion trigolion a'r Rhwydweithiau Cymdogaeth, gan fod yn gyswllt rhwng cymunedau ac ystod o wasanaethau eraill yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector drwy feithrin cydberthnasau partneriaeth cadarnhaol a chryf.

Helen RoderickShwmae, Helen ydw i a fi yw Cydlynydd Datblygu'r Gymuned newydd ardal De Cwm Rhondda. Rydw i wedi treulio'r chwe blynedd diwethaf yn gweithio i wasanaeth Sgiliau a Gwaith y Cyngor, gan roi cymorth mentora cyflogaeth i drigolion ledled Rhondda Cynon Taf. 

Cyn hynny, roeddwn i'n gweithio ym maes hawliadau Yswiriant. Rydw i'n edrych ymlaen at dreulio rhagor o amser yn y gymuned, gan helpu grwpiau i fanteisio ar bob cyfle a rhoi cymaint o gymorth â phosibl i drigolion. Rydw i wedi byw yn Rhondda Cynon Taf ar hyd fy oes, ac mae gen i ddealltwriaeth o rai o'r anawsterau sy'n codi i drigolion. Serch hynny, mae cymunedau Rhondda Cynon Taf yn rhai cydnerth, ac mae gyda nhw le arbennig yn fy nghalon. Ffaith ddiddorol amdanaf fi? Roeddwn i'n bencampwr Prydain ym maes dawnsio neuadd ddawns pan oeddwn i'n iau.

 

Hywel Jones

Shwmae bawb. Fy enw i yw Hywel, ac rydw i newydd gael fy mhenodi yn Gydlynydd Datblygu'r Gymuned ar gyfer ardal De Cwm Cynon. Cyn hynny, roeddwn i'n gweithio i Wasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor am nifer o flynyddoedd. 

Roedd y gwaith yma'n amrywiol iawn, ac roeddwn i'n aml yn rhoi cymorth i grwpiau yn y gymuned yn ogystal â thrigolion a oedd yn chwilio am gymorth yn ein cymunedau. Roedd hyn yn amrywio o'u helpu nhw gyda'u gweithgarwch beunyddiol i roi cyngor i drigolion ar ddod o hyd i gymorth penodol. Roedd y swydd hefyd yn ffordd wych o ddarllen gwaith fy hoff awduron a llyfrau roeddwn i'n eu mwynhau!

Rydw i'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r swydd newydd yma. Bydd e'n gyfle gwych i ddod i adnabod ein cymunedau lleol a rhoi cymorth iddyn nhw. Er bod Rhondda Cynon Taf yn gartref i rai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig o ran yr economi yng Nghymru, roedd fy swydd ddiwethaf yn gyfle i mi weld pa mor gryf yw'r cymunedau yma. Rydw i'n edrych ymlaen at wneud popeth o fewn fy ngallu er mawyn helpu ein cymunedau i fod mor gydnerth â phosibl. Hoffwn ddod â grwpiau ynghyd i gydweithio'n agosach