Skip to main content

Gweithdai Hyfforddi Rheoli Safleoedd

Mae carfan Cymorth Cynnar a Rhaglenni Cymunedol – RhCT Gyda'n Gilydd yn cynnig Gweithdai Hyfforddi Rheoli Safleoedd am ddim ym mis Chwefror a mis Mawrth 2026.  Trefnwyd y sesiynau yma mewn ymateb i adborth gan denantiaid a grwpiau cymunedol a fynychodd gyfarfod Rhwydwaith Cyfleusterau Cymunedol RhCT yn ddiweddar.

Diben y Gweithdyai

Nod y sesiynau hyfforddi 2 awr yw:

  • Darparu'r gwybodaeth diweddaraf am gyfrifoldebau rheoli adeiladau sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth a chanllawiau iechyd a diogelwch.
  • Rhoi’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar wirfoddolwyr, staff ac ymddiriedolwyr i gyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r safle.
  • Cyfeirio cyfranogwyr at ffynonellau cymorth a chefnogaeth i gyflawni rhwymedigaethau cydymffurfio eu hadeiladau yn effeithiol.

 Mae'r gweithdai yma'n addas ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am reoli cyfleuster cymunedol neu hamdden, boed hynny fel gwirfoddolwr, aelod o staff neu ymddiriedolwr.

Dyddiadau a Lleoliadau'r Gweithdy

Dyddiad:

Lleoliad

Amser

Dydd Iau 26 Chwefror 2026

Canolfan Hamdden Rhondda Fach

5.30–7.30pm

Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026

Canolfan Hamdden Sobell

1-3pm

Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026

Canolfan Hamdden Tonyrefail

5.30–7.30pm

Sut i Gadw Lle

Mae modd i gyfranogwyr gofrestru trwy'r ddolen cadw lle ar-lein: YMUNWCH Â'N HYFFORDDIANT RHEOLI SAFLEOEDD AM DDIM

 Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y sesiynau yma, dim ond i chi roi gwybod inni ymlaen llaw.

Manylion Cyswllt

Os oes angen ateb i gwestiwn neu wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Charfan Cymorth Cynnar a Rhaglenni Cymunedol – RhCT Gyda’n Gilydd trwy ffonio 01443 425368 neu e-bostio rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk