Skip to main content

Care First – Gwybodaeth am ein rhaglen cymorth i weithwyr.

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno rhaglen cymorth i weithwyr o'r enw Care First sydd ar waith ers 7 Gorffennaf 2022. Mae'r gwasanaeth yma'n HOLLOL GYFRINACHOL a does dim gwybodaeth bersonol yn dod yn ôl i'r Cyngor. Mae Care First ar gael i bob aelod o staff 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac ar bob diwrnod o'r flwyddyn.

 

Mae modd i staff gael mynediad i'r gwasanaethau cymorth canlynol:

  •  Cwnsela a gwybodaeth dros y ffôn: Ffoniwch 0800 174 319- Siaradwch â gweithiwr proffesiynol am gymorth yn syth. Trafodwch unrhyw beth sy'n eich poeni chi, boed yn broblemau personol megis perthnasoedd, gofidion am arian, materion teuluol, straen, galar neu brofedigaeth, neu broblemau sy'n gysylltiedig â gwaith megis teimlo dan bwysau, llwyth gwaith, newidiadau yn y gwaith, ac ati. Os yw'n briodol, bydd modd i chi gael eich atgyfeirio am gwrs cwnsela dros y ffôn gyda chynghorydd cymwys.
  • Cwnsela ar-lein a Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Mae modd cyrchu'r gwasanaethau yma drwy fynd i:
    www.carefirst-lifestyle.co.uk
    Enw Defnyddiwr:     rctc001
    Cyfrinair:                 employee
  • Cyngor a gwybodaeth gan arbenigwyr: Ffoniwch 0800 174 319– ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am–10pm ac ar benwythnosau 9am–5pm. Siaradwch ag ymgynghorydd sydd wedi'i hyfforddi i drafod amrywiaeth o bynciau fel gwybod eich hawliau tra'n rhentu eiddo, gwyliau sydd wedi'i ganslo, dyled a llawer yn rhagor.
  • Gwefan- Mae gan wefan Care First ystod o wybodaeth am iechyd, gan gynnwys materion o ran maeth, iechyd meddwl, ffitrwydd, rhoi'r gorau i ysmygu ac ati, gweminarau wythnosol a gwybodaeth ariannol, gan gynnwys cyfrifiannell cyllid. I gyrchu'r wefan ewch i:
    www.carefirst-lifestyle.co.uk
    Enw Defnyddiwr:     rctc001
    Password:               employee
  • Cymorth i reolwyr – Mae gan y wefan adran i reolwyr sy'n rhoi cymorth ac arweiniad i reolwyr a allai fod yn ymdrin ag anghydfod, problemau iechyd meddwl ymysg eu staff, ac ati. Ewch i'r wefan i gyrchu'r cymorth yma:
    www.carefirst-lifestyle. co.uk
    Enw Defnyddiwr:     rctc001
    Password:               employee
  • Ap 'My Possible Self' – Dyma ap cymorth emosiynol gan Care First sydd wedi'i gymeradwyo gan y GIG. Mae modd defnyddio'r ap trwy ddyfais bersonol neu ddyfais y gwaith ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru â chyfeiriad e-bost personol. Pan fyddwch yn cofrestru, bydd gofyn ichi nodi cod sefydliad.
    Cod sefydliad RhCT yw: WelFram21

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch Rhianydd Davies: rhianydd.davies@rctcbc.gov.uk