Porth staff ar gyfer y Cynllun Rhannu Cost Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol
Gallech chi ymddeol yn gynnar neu gyda mwy o arian. Dewch i ddysgu sut! Os ydych chi'n aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), mae modd i chi fanteisio ar y budd staff newydd gwerthfawr yma.
Mae Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn ffordd gost-effeithiol o ychwanegu at eich cronfa bensiwn ac arbed arian ar eich treth incwm ac Yswiriant Gwladol. Er enghraifft: Bydd cyfraniad o £100 yn costio £68.12 i drethdalwr cyfradd sylfaenol!
Cliciwch yma i gofrestru ac i gael gwybod rhagor.
Cymorth i Gynilo
Mae'r Cymorth i Gynilo yn fath o gyfrif cynilo. Mae'n caniatáu i bobl benodol sydd â hawl i Gredyd Treth Gwaith neu sy'n derbyn Credyd Cynhwysol gael bonws o 50c am bob £1 y maen nhw'n ei gynilo dros bedair blynedd.
Mae Cymorth i Gynilo yn cael ei gefnogi gan y llywodraeth, felly mae holl gynilion y cynllun yn ddiogel.
Rhagor o wybodaeth, yma!
Ydych chi'n poeni am arian?
Os ydych chi, cliciwch yma i weld llyfryn Rhondda Cynon Taf sy'n cynnwys gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy'n poeni am arian. Mae modd i chi hefyd glicio ar y dolenni canlynol i gael gwybodaeth am fanciau bwyd, gwirio eich cymhwysedd i dderbyn budd-daliadau a gwybodaeth am ddyledion.
Mae cymorth ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys gwybodaeth a chanllawiau am fudd-daliadau ac arian, yn ogystal â chymorth i ddod o hyd i waith, eich lles a llawer yn rhagor! Bwriwch olwg, yma.
Cliciwch yma i fwrw golwg ar lyfryn Buddion Staff sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am unigrwydd, edrych ar ôl eich hun a buddion ychwanegol i staff.