Mae cadw ar ben y cynnydd mewn costau byw yn gallu bod yn heriol, ac mae modd i hyn effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Mae'n bwysig sicrhau eich bod chi'n siarad am eich teimladau a gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae pobl eraill yn profi'r un peth a chi ac mae modd i ni gyd gefnogi ein gilydd drwy'r cyfnodau heriol yma.
Bwriwch olwg ar ein llyfryn lles sy'n cynnwys yr holl gymorth sydd ar gael i staff yn fewnol, yn ogystal â chymorth allanol.
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd
Cliciwch yma i fwrw golwg ar lyfryn o'n Buddion Staff sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am unigrwydd, edrych ar ôl eich hun a buddion ychwanegol i staff.
Vivup
Mae'r Cyngor wedi cyflwyno rhaglen cymorth i weithwyr o'r enw Vivup. Mae'r gwasanaeth yma'n HOLLOL GYFRINACHOL a does dim gwybodaeth bersonol yn dod yn ôl i'r Cyngor. Mae Vivup ar gael i bob aelod o staff 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac ar bob diwrnod o'r flwyddyn.
Mae modd i staff gael mynediad i'r gwasanaethau cymorth canlynol:
Cymorth dros y ffôn – Ffoniwch 0800 023 9387 i siarad â chwnselydd neu arbenigwr cymorth sydd â chymwysterau 24 awr y dydd, bob dydd. Mae modd trafod unrhyw faterion emosiynol, personol neu faterion sy'n gysylltiedig â’r gwaith.
Cwnsela wyneb yn wyneb ac ar-lein – Ffoniwch 0800 023 9387
Cyngor o ran Dyled – Cewch fynediad at gyngor i reoli’ch dyledion.
Llawlyfrau hunan-gymorth – Cewch fynediad at ystod eang o lawlyfrau hunan-gymorth ar therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) sy’n cynnig arweiniad a chyngor ar nifer o bynciau.
https://vivup.yourcareeap.co.uk/L201/EAP-Products.awp
Podlediadau a blogiau – Sy’n cynnwys nifer o bynciau megis iechyd meddwl a lles er mwyn deall yn well, ynghyd â chyngor ac argymhellion ar sut i ymdopi.
https://vivup.yourcareeap.co.uk/L201/EAP-Products.awp
Ask Bill – Cymorth, cyngor ac argymhellion diduedd ac am ddim ar sut i leihau eich biliau cyfleustodau.
Cam-drin Domestig – Mae Bright Sky yn ap a gwefan sy’n ddiogel ac yn hawdd i’w defnyddio er mwyn cefnogi unrhyw un sydd mewn perthynas gamdriniol neu’r rheiny sy’n poeni am rywun ac am wybod sut i ymateb.
Mae modd lawrlwytho’r ap i’ch ffôn personol neu eich ffôn gwaith.
Bright Sky ar yr App Store (apple.com)
Bright Sky ar Google Play
‘Your Care’
Mae Vivup yn darparu mynediad am ddim at Your Care, sef platfform ar-lein sy’n rhoi cyfle i chi reoli eich iechyd a’ch lles. Cymerwch ran mewn asesiadau iechyd ar-lein, dewch o hyd i’ch ffactorau risg ac ewch ati i greu ac adolygu nodau iechyd a sefydlu arferion ffordd o fyw cadarnhaol.
(Nodwch – Dydy rhai gwasanaethau ar borth Your Care DDIM ar gael)
Bydd angen i chi glicio ar y ddolen yma a chreu cyfrif:
https://rhonddacouncil.yourcarewellbeing.net
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r llinell gymorth lles staff.
E-bostiwch: LlinellGymorth@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 424100
Lles Gyda Cari
Adnodd arall sydd gyda ni yw Lles Gyda Cari sy'n gallu eich helpu chi i fod yn fwy effro o'ch lles eich hun, yn ogystal â meddwl am syniadau am sut y mae modd i chi ei wella. Mae edrych ar ôl eich lles eich hun yn hanfodol yn ystod y cyfnodau heriol yma. Dyma le gwych i ddechrau gwneud hynny. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth neu i lenwi CARI eich hun, dilynwch y ddolen yma: Rhondda Cynon Taf - Lles Gyda Cari (cariwellbeing.co.uk)
Os ydych chi'n gweithio mewn ysgol, dilynwch y ddolen yma: https://www.cariwellbeing.co.uk/rct-schools/