Skip to main content

Uwchsgilio drwy hyfforddiant

Mae nifer o raglenni cymorth cyflogaeth ar gael ledled Rhondda Cynon Taf. Maen nhw'n cynnig cymorth a chyngor i bob trigolyn dros 16 mlwydd oed, sy'n chwilio am gyfleoedd i hyfforddi, cyfleoedd i wirfoddoli, neu gymorth i uwchsgilio. 

Cwrs Dysgu Oedolion yn y Gymuned: Yma, mae rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg sylfaenol a hyfforddiant achrededig. 

Rhaglen Cymorth yn y Gwaith:Gall ein gwasanaeth ddarparu hyfforddiant un wrth un a chynnig arweiniad i’ch helpu i gyflawni eich potensial a bod mewn sefyllfa well i ddatblygu eich gyrfa.

Mae rhagor o gymorth ar gael yn Rhondda Cynon Taf. Rhestr gyflawn o gymorth yn ymwneud â chyflogaeth sy'n cael ei gynnig ledled Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys cymorth i'r rhai sy'n ddi-waith – efallai bydd hyn o fudd i'ch anwyliaid. 

A chithau'n aelod o staff y Cyngor, mae modd ichi hefyd fanteisio ar sesiynau'r Awr Wella. Maen nhw'n cynnwys pynciau gan y Garfan Datblygu Pobl megis sgiliau cyfweliad a sgiliau cyflwyno, pynciau gan y Garfan Iechyd Galwedigaethol megis y menopos a chwsg, a phynciau gan y Garfan Gydraddoldeb megis casglu data cydraddoldeb. Er mwyn bwrw golwg ar restr gyflawn o'r gweithdai sydd ar gael ac er mwyn cadw lle arnyn nhw, cliciwch yma. Os ydych chi'n cael trafferth cyrchu RCT Source, e-bostiwch y garfan: thesource@rctcbc.gov.uk neu ffonio: 01442 570040