Skip to main content

Cwnsela

Mae ein holl gwnselwyr iechyd galwedigaethol yn therapyddion cwbl gymwysedig sy'n gallu cynnig cymorth seicolegol i staff.

Dyma rai feysydd lle mae modd i staff dderbyn cymorth trwy therapi:

  • Cyflyrau iechyd meddwl megis gorbryder neu iselder
  • Ymdopi â chyflyrau corfforol megis canser, anffrwythlondeb
  • Digwyddiadau heriol yn eich bywyd megis profedigaeth neu straen sy'n gysylltiedig â’r gwaith
  • Emosiynau heriol megis dicter, diffyg hunan-barch
  • Materion eraill fel hunaniaeth rywiol.
  • Rheoli gwrthdaro

Beth i’w ddisgwyl yn ystod sesiynau cwnsela

Yn gyntaf, efallai bydd gofyn i chi fynd i asesiad lles, dyma asesiad gyda chlinigwr cymwys. Yn ystod y sesiwn yma bydd eich anghenion cymorth yn cael eu hasesu ac yna byddwch chi'n cael eich atgyfeirio'n briodol. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am asesiadau lles yma.

Ar ôl pennu cwnselydd  ar eich cyfer, yn rhan o'ch sesiwn gyntaf bydd y cwnselydd yn cwblhau asesiad byr gyda chi er mwyn sicrhau mai cwnsela yw'r cynnig gorau i chi. Bydd modd i chi hefyd drafod sut hoffech chi i ni gynnal sesiynau, a dechrau sefydlu perthynas â'ch cwnselydd.

Yn eich sesiynau cwnsela bydd cyfle gyda chi siarad yn agored am eich meddyliau a'ch teimladau mewn amgylchedd diogel, heb farn. Bydd y cwnselydd yn gwrando arnoch chi ac yn rhoi cymorth i chi, fydd ddim yn cynnig cyngor personol nac yn eich beirniadu chi mewn unrhyw ffordd. Nod y sesiynau cwnsela yw rhoi cymorth i chi ddeall eich emosiynau a'ch meddyliau, sy'n gallu ei gwneud hi'n haws i dderbyn y rhain ac ymdopi gyda beth bynnag sy'n digwydd yn eich bywyd.

Weithiau, gall cwnsela beri rhai teimladau heriol a gofidus, ond mae hyn yn normal a bydd y therapydd yn eich cefnogi trwy'r emosiynau yma.

Mae apwyntiadau cwnsela yn gyfrinachol ac ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rhannu ag Adnoddau Dynol na'ch rheolwr.

Rydyn ni'n cynnig hyd at 6 o sesiynau cwnsela, gyda phob sesiwn yn para 50 munud. Mae modd i'r sesiynau gael eu cynnal dros y ffôn, ar ffurf galwad fideo neu wyneb yn wyneb.

Er mwyn manteisio ar wasanaethau cwnsela, mae modd i chi ofyn i'ch rheolwr eich atgyfeirio chi, neu mae modd i chi hunanatgyfeirio ar gyfer cwnsela drwy ddilyn y ddolen yma: myCority

 I gael cymorth gyda hyn, bwriwch olwg ar y canllawiau canlynol ar sut i ddefnyddio'r ddolen hunanatgyfeirio.