Skip to main content

Asesiadau lles

 

Mae hunanofal yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein lles ni'n cael ei gynnal. Serch hynny, mae ymyriadau eraill ar gael er mwyn cynnig cefnogaeth bellach i gryfhau'n lles pan fo angen. Cliciwch yma er mwyn gweld ein llyfryn lles, sy'n cynnwys rhagor o fanylion yn ymwneud â hunanofal a lles staff.

Mae modd i staff hunanatgyfeirio ar gyfer asesiadau lles. Mae'n hasesiad lles wedi'i gynllunio i sicrhau'r ffurf fwyaf addas ac effeithiol o gael cymorth ac ymyrraeth cyn gynted â phosibl. Yn rhan o'ch asesiad, cewch chi'r cyfle i siarad â gweithiwr proffesiynol am gyflwr eich iechyd meddwl, a thrafod sut mae'n effeithio ar eich lles pan rydych chi yn y gwaith. Bydd y gweithiwr proffesiynol yn siarad â chi er mwyn argymell y camau nesaf i'w cymryd.

Bydd rhai yn elwa o siarad â rhywun yn unig, a bydd dim angen ymyrraeth bellach. Ond efallai bydd eraill yn elwa o'r ymyrraeth ychwanegol sydd ar gael, er enghraifft cwnsela, hyfforddi neu ymyrraeth benodol fel cymorth i roi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Mae'r hunanatgyfeiriad yn gyfrinachol a DYDY'R Uned Iechyd Galwedigaethol byth yn rhannu'ch gwybodaeth bersonol gyda'ch rheolwr neu'r Adran Adnoddau Dynol.

Er mwyn hunanatgyfeirio ar gyfer asesiad lles, e-bostiwch LlinellGymorth@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 424100.