Skip to main content

Ap Defnyddio Fy Nghymraeg

Mae Defnyddio Fy Nghymraeg yn ap sy'n helpu trigolion ac ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf i ddod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu hardal leol.

Use my Cymraeg Logo [CYMRAEG]Ble mae modd Defnyddio Fy Nghymraeg yn Rhondda Cynon Taf?

Prif bwrpas ap Defnyddio Fy Nghymraeg yw ei gwneud yn haws i bobl sy'n dysgu ac sy'n siarad yr iaith yn hyderus ddod o hyd i gyfleoedd i ddefnyddio eu Cymraeg yn lleol.

Defnyddio'r Gymraeg yn Lleol

Mae'r ap, a fydd yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2026, yn casglu manylion am weithgareddau, achlysuron a grwpiau yn Rhondda Cynon Taf lle mae'r Gymraeg yn brif iaith.

P'un a ydych chi'n siaradwr Cymraeg hyderus, yn dysgu'r iaith, neu eisiau adennill hyder yn yr iaith, mae gan ap Defnyddio Fy Nghymraeg rywbeth i chi.

Bydd modd lawrlwytho'r ap yn y ffyrdd canlynol:

AndroidLAWRLWYTHWCH O'R PLAY STORE YMA

AppleLAWRLWYTHWCH O'R APP STORE YMA

Os yw eich gweithgaredd, achlysur neu grŵp ar goll o'r ap, neu os ydych chi wedi sylwi nad yw ein gwybodaeth yn hollol gywir, rhowch wybod i ni drwy e-bostio defnyddiofynghymraeg@rctcbc.gov.uk.

Mae'n RHAD AC AM DDIM.

Cadwch lygad ar y newyddion diweddaraf drwy ddilyn Defnyddio Fy Nghymraeg ar Instagram a Facebook – @defnyddiofynghymraeg.

Gwybodaeth am y prosiect

Mae Defnyddio Fy Nghymraeg yn bartneriaeth rhwng Cyngor Rhondda Cynon Taf a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, gyda chymorth sefydliadau lleol:

Menter Iaith  - Elusen sy'n darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, gyda'r nod o gynyddu ei defnydd a meithrin hyder ymhlith siaradwyr.

Dysgu Cymraeg Morgannwg - Dysgwch Gymraeg neu wella'ch sgiliau gydag amrywiaeth o gyrsiau.

Ymbweru Bro - Straeon a phrosiectau gan bobl leol.


Mae Defnyddio Fy Nghymraeg yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 5 Mlynedd Cyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n anelu at gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ym mywydau beunyddiol ein trigolion.

Dyw Defnyddio Fy Nghymraeg ddim yn gyfrifol am ddarparwyr wedi'u rhestru ar yr ap yn canslo neu'n diwygio unrhyw weithgareddau, achlysuron a grwpiau ar fyr rybudd.