Mae'r broses chwythu'r chwiban yn galluogi gweithwyr/contractwyr y Cyngor i godi pryderon ynghylch arferion neu ymddygiad gweithwyr eraill. Os oes gyda chi bryder, a chithau'n aelod o'r cyhoedd, rhowch wybod i ni drwy e-bostio
adborth@rctcbc.gov.uk
Dyma rai enghreifftiau o achosion o ddrygioni difrifol:
- Defnyddio adnoddau neu arian cyhoeddus mewn modd anghyfreithlon, llwgr neu afreolaidd.
- Unrhyw fath o ymddygiad sy'n achosi perygl difrifol i iechyd y cyhoedd, i ddiogelwch, i'r amgylchedd neu i gynnal cyfraith.
- Unrhyw dramgwydd troseddol.
- Camreoli neu esgeuluster difrifol gan swyddogion cyhoeddus.
Noder: dim ond mewn perthynas â phryder am gamwedd difrifol gweithiwr Cyngor y dylid defnyddio'r ffurflen chwythu'r chwiban hon. Os yw eich pryder yn ymwneud â phroblem gyda gwasanaeth yn cael ei ddarparu neu gŵyn am sut mae gweithiwr cyngor wedi delio â chi'n bersonol neu dros y ffôn, yna dylid cofnodi hyn fel cwyn. Gweler ein
gweithdrefn gwyno am ganllawiau pellach.
Codi mater
Os ydych chi eisiau mynegi pryder, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. Dylech chi gynnwys cymaint o wybodaeth berthnasol ag sy'n bosibl, er enghraifft, dyddiadau, digwyddiadau a thystion.
- Os bydd angen i'r swyddogion ymchwilio ofyn rhagor o gwestiynau yn rhan o'r gwaith ymchwilio, bydd angen iddyn nhw gysylltu â'r rhai sydd wedi mynegi pryder. Byddai'n syniad da i chi, felly, nodi eich manylion cyswllt. Fydd neb ond y swyddog ymchwilio perthnasol yn cael gweld eich manylion cyswllt.
- Os ydych chi'n un o weithwyr y Cyngor, mae'r polisi a'r gweithdrefnau o ran chwythu'r chwiban ar gael ar fewnrwyd y Cyngor (‘Inform’). Mae'r ddogfen honno'n cynnwys arweiniad ar aros yn ddienw a chadw enwau'r rhai sy'n chwythu'r chwiban yn gyfrinachol.
Rhoi gwybod am bryderon ar-lein ynglŷn â gweithwyr y Cyngor.