Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo argymhellion pwysig i'r Cyngor weithio gyda phartneriaid i osod diffibriliwr ar bob un o'i safleoedd ysgol yn Rhondda Cynon Taf. Byddai'r dyfeisiau yma sy'n cael eu defnyddio mewn argyfwng, ar gael i'r gymuned ehangach bob awr o'r dydd a phob diwrnod o'r wythnos, lle bo'n briodol ac yn bosibl.
Cafodd potensial y fenter yma ei godi fel cynnig yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Tachwedd 2024, a chafodd y cynnig ei gefnogi'n unfrydol. O ganlyniad, gofynnwyd i swyddogion ystyried y posibilrwydd o osod diffibriliwr ar safle pob un o ysgolion y Fwrdeistref Sirol, a thrin a thrafod a allai'r cyhoedd gael mynediad atyn nhw ar unrhyw adeg o'r dydd hefyd.
Cafodd adroddiad cychwynnol gan swyddogion ei drafod gan y Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned wedi hynny ym mis Ebrill 2025. Sefydlodd y Pwyllgor weithgor gyda swyddogion yn adran Addysg y Cyngor – a chafodd y gwaith ei lywio gan bartneriaid cymunedol a chynrychiolwyr o'r sector elusennol.
Trafodwyd adroddiad terfynol y gweithgor a 10 argymhelliad yn ystod cyfarfod diweddar y Cabinet a gafodd ei gynnal ddydd Llun, 15 Rhagfyr. Cytunodd yr Aelodau ar yr argymhellion, sydd wedi'u crynhoi ar waelod yr eitem newyddion yma – gan nodi y bydd yn broses fesul cam i gyflawni'r canlyniadau sydd wedi'u rhestru.
O ran cost gosod y diffibrilwyr newydd, nododd y gweithgor y bydd y Cyngor yn cydweithio'n agos ag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ynghyd â grwpiau elusennol a chymunedol, ynghylch cyfleoedd ariannu.
Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, bydd ymateb ffurfiol yn cael ei anfon at y gweithgor, a phob Aelod Etholedig yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn. Bydd amserlen ar gyfer cyflawni'r argymhellion yn cael ei llunio ar yr adeg yma.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Rydw i wrth fy modd bod y fenter wych yma wedi derbyn cefnogaeth Aelodau'r Cabinet – er mwyn i'r Cyngor weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod diffibriliwr yn cael ei osod ar safle pob ysgol yn Rhondda Cynon Taf, a hynny dros gyfnod o amser. Yr hyn sy'n bwysig yw y byddai'r offer ar gael 24/7, nid yn ystod oriau ysgol yn unig, lle bo modd.
“Nododd adroddiad dydd Llun i’r Cabinet fod tua 570 o ddiffibrilwyr ledled Rhondda Cynon Taf, ond mae yna ardaloedd o’r Fwrdeistref Sirol heb un gerllaw, neu heb un ar gael drwy'r amser. Mae gan y Cyngor 113 o safleoedd ysgol, yng nghanol ein cymunedau, felly bydd sicrhau bod gan bob lleoliad ddiffibriliwr yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae gan tua hanner ein hysgolion un ar hyn o bryd, gyda llawer llai ar gael i'w defnyddio bob awr o'r dydd.
“Mae gweithgor y Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned wedi ymgymryd â gwaith amhrisiadwy er mwyn sicrhau bod y fenter yma wedi datblygu o fod yn rhybudd o gynnig cychwynnol i fod yn fenter sydd wedi'i hymchwilio'n drylwyr, sydd bellach wedi'i chymeradwyo gan y Cabinet. Hoffwn i ddiolch i Aelodau’r Pwyllgor, swyddogion y Cyngor, a sefydliadau partner, am gyfrannu at yr argymhellion sy’n cael eu cyflwyno.”
Mae'r 10 argymhelliad a gyflwynwyd gan y gweithgor, sydd bellach wedi'u cymeradwyo gan Aelodau'r Cabinet, wedi'u crynhoi isod:
- Dylai fod gan bob lleoliad addysgol yn Rhondda Cynon Taf ddiffibriliwr allanol awtomatig. Lle bo'n briodol ac am gost resymol, dylid gosod y rhain ar berimedr yr ysgol, a hynny ar gyfer mynediad 24/7.
- Lle nad oes modd i'r gymuned ehangach gael mynediad at ddiffibriliwr sydd wedi'i leoli ar safle ysgol, bydd y Cyngor yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i osod un mewn lleoliad canolog yn y gymuned, a sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw.
- Bydd y Cyngor yn lobïo am gynnwys diffibriliwr yn rhan o waith adeiladu ac adnewyddu ysgolion ledled Cymru yn y dyfodol, a hynny fel nodwedd safonol.
- Bydd y Cyngor yn cydweithio ag elusennau a sefydliadau perthnasol i ymgorffori hyfforddiant adfywio cardiopwlmonaidd a defnyddio diffibriliwr ar draws pob lleoliad addysgol a chymunedol lleol, ac integreiddio'r hyfforddiant yma yn rhan o'r cwricwlwm lle bo modd.
- Mae'r Cabinet yn cydnabod manteision ysgolion yn ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda darparwr trydydd parti cymwys i archwilio, cynnal a rheoli data ar gyfer diffibrilwyr – gan argymell hyn i bob corff llywodraethu.
- Mae pob diffibriliwr mewn ysgolion lleol wedi'i gofrestru ar y gronfa ddata genedlaethol, a dylid annog grwpiau cymunedol i gofrestru eu rhai nhw hefyd – tra bod ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn cael ei chreu ynghylch lleoliadau a defnyddio diffibrilwyr.
- Dylai canllawiau cynllunio ar gyfer pob datblygiad tai mawr ledled Rhondda Cynon Taf annog datblygwyr i gynnwys diffibriliwr yn rhan o'r seilwaith cymunedol, a'i leoli mewn ardal sydd ar gael i'r cyhoedd.
- Mae gwasanaethau cyfreithiol ac yswiriant yn llunio fframwaith cyson ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfer mynd i'r afael ag atebolrwydd, fandaliaeth, a threfniadau mynediad, er mwyn rhoi sicrwydd i ysgolion sy'n gweithredu'n warcheidwaid diffibrilwyr cyhoeddus.
- Asesu darpariaeth diffibrilwyr yn lleoliadau'r Cyngor, lleoliadau cymunedol ac ysgolion gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a nodi bylchau trwy weithio gydag elusennau, grwpiau cymunedol a'r gwasanaethau brys.
- Bydd y Cyngor yn gweithredu fframwaith cynnal a chadw a monitro safonol ar gyfer pob diffibriliwr a reolir gan y Cyngor ac sydd wedi'i leoli mewn ysgolion, gan gynnwys archwiliadau rheolaidd, mecanweithiau cofnodi a chyllid cynaliadwy.
Mae'r argymhellion i'w gweld yn llawn yn rhan o adroddiad y Cabinet ddydd Llun.
Wedi ei bostio ar 18/12/2025