Skip to main content

Lido Ponty wedi cadarnhau y bydd cyfle i nofio ar ddydd San Steffan a dydd Calan unwaith eto'r flwyddyn yma

Lido BDS

 Manteisiwch ar y cyfle i nodi diwedd blwyddyn BENIGAMP arall i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, trwy fwynhau sesiwn nofio dros yr ŵyl!

Bydd Lido Ponty yn cynnal ei sesiynau nofio Gŵyl San Steffan eto yn 2026, gan nodi diwedd blwyddyn brysur arall, a'i haf prysuraf hyd yma, lle cafodd dros 110,000 o nofwyr gyfle i nofio yn y pyllau awyr agored wedi'u cynhesu.

Pan fydd ein sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dod i ben (am y tro!) ar ddydd Sul, 6 Rhagfyr, byddwn ni'n cynhesu pyllau nofio Lido Ponty i 28 gradd yn barod ar gyfer ein sesiynau nofio Gŵyl San Steffan.

Bydd tocynnau ar gyfer sesiynau nofio Gŵyl San Steffan yn mynd ar werth am 9am ddydd Mawrth, Rhagfyr 8.

Yna, byddwn ni'n paratoi ar gyfer 2027 - lle byddwn ni'n dathlu 100 mlynedd ers agor Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty - gan ddechrau gyda Sesiwn Nofio Dydd Calan i nodi'r Flwyddyn Newydd.

Bydd y pyllau wedi'u cynhesu i 28 gradd ar gyfer yr achlysur arbennig yma, gan gynnig cyfle gwych i groesawu'r flwyddyn newydd.

Bydd tocynnau ar gyfer sesiynau nofio Dydd Calan yn mynd ar werth am 9am, ddydd Llun 14 Rhagfyr.

Rhwng 23 Ionawr a 28 Chwefror, bydd tymheredd y dŵr yn gostwng i 14 gradd ar gyfer ein sesiynau nofio mewn dŵr oer, a bydd prif dymor Lido Ponty yn dechrau adeg y Pasg.

Byddwn ni hefyd yn dathlu canmlwyddiant Lido Ponty y flwyddyn nesaf. Agorodd pwll nofio gwreiddiol Lido Ponty ym Mharc Coffa Ynysangharad ym mis Awst 1927. Cafodd y pwll yma ei gau ym 1991, a'i ailagor yn 2015, diolch i gyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gwerth £6.3 miliwn a phrosiect Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Byddai Jenny James, un o wynebau enwocaf Lido Ponty, hefyd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yn 2027. Cafodd Jenny James ei geni ym Mhontypridd ym 1927, a gweithiodd yn achubwr bywyd a hyfforddwr yn Lido Ponty, gan achub cannoedd o fywydau yn ystod ei gyrfa.

Ym 1950, Jenny James oedd y Gymraes gyntaf i nofio ar draws Môr Hafren. Y flwyddyn ganlynol, nofiodd y Sianel.

Bu farw Jenny yn 2014 yn 87 oed ond rydyn ni'n ei chofio o hyd. Cafodd Plac Glas ei gosod er anrhydedd iddi yn Lido Ponty ac mae modd i chi ddysgu rhagor amdani a gweld arteffactau o'i bywyd a'i gyrfa nofio yn yr arddangosfa am ddim yn Lido Ponty (uwchben y caffi).

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Ychydig fisoedd yn ôl, cawsom dywydd gwych a chafodd Lido Ponty un o'i brif dymhorau prysuraf erioed, gan groesawu nofwyr o bob oed ac o bob cwr o'r DU i'w byllau awyr agored cynnes.

"Yn sydyn iawn, mae'r tymheredd wedi gostwng ac rydyn ni'n mwynhau ein sesiynau nofio mewn dŵr oer ac yn paratoi ar gyfer sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

“Dydy'r hwyl byth yn dod i ben yma yn Lido Ponty wrth i ni weithio i sicrhau bod yr atyniad cenedlaethol poblogaidd yma'n parhau i groesawu pobl o bob cwr o'r wlad i fwynhau ystod eang o weithgareddau.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at dymor gwych arall a chyfle i ddathlu canmlwyddiant y Lido yn 2027."

Mae modd prynu tocynnau ar gyfer sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan ar-lein:

 

Wedi ei bostio ar 27/11/2026