Bydd cyllid pwysig newydd gwerth £1.5 miliwn yn cael ei ddyrannu ar draws wyth canol tref Rhondda Cynon Taf dros ddwy flynedd, ar ôl i Aelodau'r Cabinet ystyried y ffordd orau o wario Cronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.
Amlinellodd adroddiad swyddog i'r Cabinet ddydd Llun, 15 Rhagfyr, y cyllid sydd wedi'i sicrhau ar gyfer y Fwrdeistref Sirol i fuddsoddi yn ein cymunedau hyd at fis Mawrth 2027. Bwriedir i'r Gronfa Effaith Balchder Bro fod yn gyllid tymor byr sy'n mynd i'r afael â materion sy'n bwysig yn lleol. Mae hyn ar wahân i'r Rhaglen Balchder Bro, sy'n targedu trawsnewid dros y tymor hwy.
Mae modd i gynghorau wario eu dyraniadau Cronfa Effaith mewn nifer o ffyrdd, cyn belled â'u bod yn cydymffurfio ag un neu fwy o dri amcan craidd y Gronfa – creu neu ymestyn mannau cymunedol, gwella'r amgylchedd ffisegol mewn mannau cyhoeddus, ac adfywio strydoedd mawr a chanol trefi. Mae modd cyflwyno prosiectau o dan yr amcanion yma, a hynny er mwyn diwallu anghenion neu gyfleoedd lleol.
Nododd adroddiad y Cabinet ddydd Llun ei bod yn hanfodol targedu meysydd blaenoriaeth lle mae modd cyflawni'r cyfleoedd mwyaf uniongyrchol, gweladwy a phellgyrhaeddol. Ychwanegodd fod rhaid i ganol ein trefi fod mor fywiog a chynaliadwy â phosibl er mwyn gwneud y mwyaf o'u rôl wrth ddarparu gwasanaethau, cartrefi, cyfleoedd hamdden a chyfleusterau manwerthu.
Yn ogystal â hyn, mae canol trefi lleol wedi bod yn elwa ar welliannau a rhaglenni buddsoddi mewn busnesau drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin barhaus, sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2026. Os caiff Cronfa Effaith Balchder Bro ei dyrannu i ganol trefi, byddai'n adeiladu ar y momentwm a gafwyd. Byddai'n galluogi effaith uniongyrchol ar atyniad cyffredinol strydoedd mawr lleol – gan arwain yn ei dro at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr, gostyngiad yng nghyfraddau siopau gwag, hwb i'r economi, mwy o hyder gan fuddsoddwyr, a mwy o ymdeimlad o falchder cymunedol.
Ar ôl ystyried argymhellion y swyddogion, cytunodd Aelodau'r Cabinet i gymeradwyo'r strategaeth yma ar gyfer Cronfa Effaith Balchder Bro, hyd at fis Mawrth 2027.
Yn rhan o'r dyraniad, cytunodd y Cabinet hefyd y bydd rhaglen grant cyfalaf gwerth £100,000 yn cael ei sefydlu, a hynny er mwyn i sefydliadau cymunedol ddarparu gweithgareddau ategol eraill yn unol ag amcanion y Gronfa Effaith. Bydd yn sicrhau bod grantiau rhwng £3,000 a £5,000 ar gael fel cyllid cyfatebol, i ddenu cyllid allanol a fydd yn dod â buddsoddiad pellach o fewn canol trefi lleol.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Rydw i'n falch bod Aelodau'r Cabinet wedi cefnogi dyrannu ein cyfran gwerth £1.5 miliwn o Gronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU i adfywio canol wyth ein trefi ymhellach, sef hybiau ein cymunedau lleol. Caiff ei ystyried mai canolbwyntio ar y mannau cyhoeddus yma yw'r ffordd orau o wneud y mwyaf o'r buddsoddiad i'r rhan fwyaf o drigolion – mewn mannau lle mae pobl yn cwrdd, yn siopa, yn byw, yn ennill bywoliaeth, ac yn cael mynediad at wasanaethau allweddol.
"Mae canol ein trefi hefyd wedi wynebu llawer o heriau economaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar ben y newid ehangach mewn ymddygiad defnyddwyr, mae masnachwyr hefyd wedi dioddef digwyddiadau penodol megis pandemig COVID-19, stormydd a llifogydd, yn ogystal â chostau byw uchel sy'n parhau. Felly, mae'n bwysig cefnogi canol ein trefi nawr yn fwy nag erioed, er mwyn sicrhau bod modd iddyn nhw ffynnu i'r dyfodol.
"Gyda'r cyllid ar gael eleni a'r flwyddyn nesaf, bydd yn ein galluogi ni i barhau â'r gwaith gwerthfawr sy'n cael ei gyflawni drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n dod i ben ym mis Mawrth. Mae prif amcanion y Gronfa Effaith, sy'n ymwneud ag ymestyn mannau cymunedol, gwella mannau cyhoeddus a rhoi hwb i ardaloedd manwerthu, yn cydymffurfio â nodau ein strategaethau canol trefi amrywiol presennol. Dyma gynlluniau ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol sydd ar waith ar gyfer Aberpennar, Porth, Pontypridd ac Aberdâr – gyda'r strategaeth ddiweddaraf yn cael ei datblygu ar gyfer Tonypandy ar hyn o bryd.
“Rydw i hefyd yn falch y bydd dyraniad bach yn cael ei neilltuo ar gyfer cyfleoedd cyllid cyfatebol y trydydd sector. Bydd hyn yn sefydlu rhaglen grant cyfalaf gwerth £100,000 i sefydliadau cymunedol gael mynediad at gyllid, i ategu eu buddsoddiadau a'u mentrau lleol eu hunain. Bydd defnyddio cyllid fel hyn yn cynyddu'r buddsoddiad cyffredinol yng nghanol ein trefi, o dan ethos Balchder Bro.
“Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, bydd swyddogion nawr yn bwrw ymlaen â rhoi'r cyllid newydd yma ar waith. Rhan bwysig o'r broses gyflawni fydd ymgysylltu â grwpiau allweddol a sefydliadau cynrychioliadol – er enghraifft, ein Hardaloedd Gwella Busnes – yn ogystal ag aelodau etholedig lleol. Rydw i'n edrych ymlaen at weld y cyllid newydd yma'n cael ei ddefnyddio yng nghymunedau canol ein trefi.”
Wedi ei bostio ar 18/12/2025