Skip to main content
Alert Symbol
Mae rhybudd tywydd MELYN y Swyddfa Dywydd o law mewn grym tan 7pm ddydd Iau 18 Rhagfyr. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Dwy ysgol newydd sbon sy'n agor y flwyddyn nesaf wedi'u henwi'n swyddogol

Schools - Copy

Mae Aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo'r enwau arfaethedig a gyflwynwyd ar gyfer ysgolion newydd yng Nghwm Clydach a Glyn-coch – yn dilyn argymhellion a wnaed gan gyrff llywodraethu dros dro'r ddwy ysgol berthnasol.

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 15 Rhagfyr, rhoddodd adroddiad swyddog wybod i'r Aelodau am y prosesau ymgynghori a gynhaliwyd gan benaethiaid a chyrff llywodraethu'r ysgolion newydd, a fydd yn agor mewn pryd ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Maen nhw wedi dilyn y protocol ar gyfer gosod a newid enwau ysgolion o dan bolisi'r Cyngor, sydd wedi bod ar waith ers 2012.

Yn ystod y ddau ymgynghoriad, fe wnaeth y penaethiaid gwrdd â'r disgyblion i drafod syniadau a gwneud awgrymiadau ar gyfer enwau newydd yr ysgolion. Mae hyn yn cydymffurfio â rhan allweddol o bolisi'r Cyngor, sef y dylai disgyblion chwarae rhan flaenllaw yn y broses.

Ysgol gynaliadwy newydd Glyn-coch 

Bydd Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ac Ysgol Gynradd y Cefn yn uno i ffurfio ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mai 2025 ac mae'n parhau i fynd rhagddo. Mae ffrâm bren yr adeilad yn cael ei chodi ac mae gwaith gosod y to, y ffenestri a'r drysau bellach ar y gweill. Mae'r prosiect ar flaen y gad o ran datblygu cynaliadwy yng Nghymru, a bydd yn cyfrannu at ymrwymiadau newid yn yr hinsawdd a rennir y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Dim ond tri phrosiect yng Nghymru wedi sicrhau buddsoddiad drwy Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a dyma un ohonyn nhw.

Yn dilyn ymgynghori â chynghorau ysgol y ddwy ysgol bresennol yng Nglyn-coch, ymgysylltodd y corff llywodraethu dros dro hefyd â rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach. Cyflwynwyd awgrymiadau gan rieni, disgyblion, aelodau staff, trigolion lleol, a llywodraethwyr yr ysgol. At ei gilydd, cwblhaodd 183 o bobl ffurflen yn rhan o'r broses ymgynghori gyffredinol.

Yr enw mwyaf poblogaidd oedd ‘Glyn-coch Primary School’ ac, yn ysbryd Cymru ddwyieithog a hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn barhaus, cynigiodd y corff llywodraethu dros dro y dylid cynnig enw Cymraeg yn unig. Mae hyn hefyd yn cydymffurfio ag uchelgeisiau 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru ac egwyddorion sylfaenol Deddf yr Iaith Gymraeg ac Addysg (Cymru) newydd.

Felly, enw newydd yr ysgol a gynigiwyd i'r Cabinet oedd Ysgol Gynradd Glyn-coch – a chafodd yr enw yma ei gymeradwyo gan yr Aelodau ddydd Llun.

Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol Newydd yng Nghwm Clydach 

Mae'r Cyngor yn sefydlu ei bumed ysgol ADY i ymateb i'r nifer cynyddol o ddisgyblion ADY yn Rhondda Cynon Taf, cymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion, a phwysau o ran capasiti yn y pedair ysgol ADY bresennol. Bydd yn elwa ar adeilad newydd ar safle'r Pafiliynau yng Nghwm Clydach. Mae'r gwaith adeiladu'n mynd rhagddo'n dda, ar ôl cyrraedd rhan uchaf yr adeilad yn ddiweddar, gyda rhan o'r to bellach wedi'i chwblhau a ffenestri'n cael eu gosod. Mae'r prosiect wedi'i ariannu drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Yn dilyn ymgynghori â chynghorau ysgolion Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch, awgrymwyd rhestr o enwau posibl – a phenderfynodd y corff llywodraethu dros dro gyflwyno pedwar enw yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus. At ei gilydd, cwblhaodd 213 o bobl yr ymgynghoriad yma wedi hynny. Roedden nhw'n cynnwys rhieni, disgyblion, aelodau staff, trigolion lleol a llywodraethwyr yr ysgol.

Fe wnaeth y corff llywodraethu dros dro gwrdd ym mis Tachwedd 2025 gan ystyried popeth – o'r adborth o’r ymgynghoriad i fewnbwn y disgyblion.

Yr enw newydd a gynigiwyd i'r Cabinet oedd 'Ysgol Cambrian' – a chafodd hyn ei gymeradwyo wedi hynny gan yr Aelodau yn ystod cyfarfod ddydd Llun.

Meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Rydw i'n falch bod y Cabinet wedi cefnogi'r enwau arfaethedig ar gyfer yr ysgolion newydd yng Nglyn-coch a Chwm Clydach, fel cam pwysig yn eu prosesau datblygu. Mae modd i'r penaethiaid priodol nawr fwrw ymlaen â chamau gweithredu megis datblygu lliwiau, bathodynnau a gwisgoedd ysgol newydd, a fydd yn cael eu defnyddio'n amlwg i sefydlu hunaniaethau cydnabyddedig a fydd yn cael eu defnyddio am genedlaethau i ddod.

“Roedd y Cabinet yn fodlon bod y penaethiaid a’r cyrff llywodraethu dros dro priodol wedi dilyn y broses gywir, a pholisi’r Cyngor ar enwi ysgolion sydd wedi bod ar waith ers blynyddoedd lawer. Dyma gyfnod cyffrous iawn gyda'r ddau adeilad modern yn datblygu'n dda iawn yn y cam adeiladu. Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach, ac i Ysgol Gynradd Glyn-coch ac Ysgol Cambrian agor eu drysau'r flwyddyn nesaf.

“Mae’r prosiectau yma ymhlith y naw buddsoddiad ysgol nesaf i’w cyflawni gan y Cyngor, o fewn ymrwymiad cyllid gwerth £414 miliwn ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Rydyn ni'n parhau i groesawu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i wneud y lefel sylweddol yma o fuddsoddiad yn bosibl. Yn ddiweddar, rydyn ni hefyd wedi penodi prif gontractwyr ar gyfer adeiladau ysgol newydd yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Llanhari ac Ysgol Gynradd Pen-rhys, sy'n cael eu dylunio ar hyn o bryd. Cyfanswm ein prosiectau a gyflawnwyd ers 2014, ynghyd â'r cyllid a neilltuwyd hyd at 2033, yw bron i £1 biliwn – buddsoddiad syfrdanol yn ein pobl ifainc dros gyfnod o 20 mlynedd.”

Wedi ei bostio ar 18/12/2025