Skip to main content

Ethol y Cynghorydd Ann Crimmings yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf

Cllr-Crimmings

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi bod y Cynghorydd Ann Crimmings wedi cael ei hethol yn Arweinydd newydd y Cyngor yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher, 29 Ebrill.

Cafodd y Cynghorydd Ann Crimmings ei hethol yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Andrew Morgan OBE i roi’r gorau i'r rôl yn gynharach eleni.

Y Cynghorydd Ann Crimmings, sydd wedi cynrychioli ward Gorllewin Aberdâr a Llwydcoed ers 2004, yw’r ail fenyw i fod yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Yn ogystal â bod yn Gynghorydd, mae Ann yn wirfoddolwr brwd mewn nifer o grwpiau a phwyllgorau yn y gymuned, gan gynnwys Cwmdare For Cwmdare, Cyfeillion Parc Aberdâr a ParkRun Parc Aberdâr. Mae hi'n mynychu achlysur casglu sbwriel cymunedol Parc Gwledig Cwm Dâr yn rheolaidd, yn Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Parc Aberdâr, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan.

Yn dilyn ei hethol, dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael fy ethol yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf. Ar ôl cael fy ethol gan y gymuned ers 2004, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gynrychioli trigolion ledled Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod ein bwrdeistref sirol yn parhau i ffynnu.

"Rydw i'n edrych ymlaen at barhau â hanes cryf y Cyngor o gyflawni, gan weithio gyda chydweithwyr, staff, partneriaid a chymunedau ledled Rhondda Cynon Taf i barhau i wella gwasanaethau i drigolion."

“Mae’n fraint cael y cyfle i ddilyn yn ôl troed Andrew drwy fuddsoddi yn staff a gwasanaethau rheng flaen y Cyngor, trawsnewid ein cymunedau, a chefnogi’r holl drigolion sy’n dibynnu ar wasanaethau rhagorol y Cyngor rydyn ni’n eu darparu o ddydd i ddydd.”

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, OBE: “Rydw i wedi adnabod Ann yn bersonol ers blynyddoedd lawer ac wedi gweithio ochr yn ochr â hi ers i’r ddau ohonon ni gael ein hethol yn 2004. Mae Ann yn unigolyn hynod ofalgar a thosturiol sy'n angerddol dros ei chymuned, ac yn ymroi'n llwyr i'w gwasanaethu.

“Daeth Ann â chyfoeth o brofiad gyda hi wrth ymuno â byd llywodraeth leol ac mae hi wedi bod yn aelod o’r Cabinet ers 2014. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cynnydd a llwyddiant ar gyfer y gwasanaethau mae hi wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw, gan gynnwys y buddsoddiad mwyaf mewn cyfleusterau hamdden a gwelliannau sylweddol ym maes ailgylchu.

“Mae profiad, ymroddiad a gwerthoedd Ann yn golygu mai hi yw'r person cywir i arwain Cyngor Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol.”

Roedd y Cynghorydd Crimmings yn Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd gynt ac mae hi hefyd wedi bod yn gyfrifol am wasanaethau rheng flaen a hamdden. Yn ogystal â hynny, hi oedd Maer Rhondda Cynon Taf rhwng 2013 a 2014.

A hithau'n Arweinydd, bydd y Cynghorydd Crimmings bellach yn arwain Cabinet y Cyngor ac yn gweithio gydag Aelodau etholedig, swyddogion a phartneriaid i barhau i gyflawni blaenoriaethau allweddol ar gyfer cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 30/04/2026