Skip to main content

Penodiadau pwysig wedi'u gwneud yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor

Mae'r Cyngor wedi cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr wythnos hon, lle bu Aelodau Etholedig yn penodi i sawl rôl a chyfrifoldeb allweddol ar gyfer blwyddyn 2026-2027 y Cyngor.

Yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor ym Mhontypridd ddydd Mercher, 29 Ebrill, penodwyd Llywydd a Dirprwy Lywydd y Cyngor, yn ogystal â'r Maer a'r Dirprwy Faer. Cafodd Arweinydd y Cyngor, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid eu hethol hefyd. Yn ogystal â hynny, cafodd nifer o Aelodau eu penodi i wahanol bwyllgorau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae manylion am rai o brif rolau'r Cyngor wedi'u nodi isod, ac mae modd gweld rhestr lawn o'r penodiadau a wnaed yn y cyfarfod ar-lein.

Arweinydd y Cyngor, Cabinet, ac Arweinydd yr Wrthblaid

Mae'r Cynghorydd Ann Crimmings wedi cael ei hethol yn Arweinydd newydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, yn dilyn penderfyniad blaenorol y Cynghorydd Andrew Morgan OBE i roi'r gorau i'r swydd. Etholwyd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ddydd Mercher hefyd – mae'r Cynghorydd Maureen Webber BEM wedi'i hail-ethol i'r swydd yma. Mae Arweinydd newydd y Cyngor wedi cyhoeddi penodiadau i'w Chabinet, a dyma'r swyddi a'r meysydd o gyfrifoldeb:

  • Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Cyllid, Y Cynghorydd Ann Crimmings. 
  • Dirprwy Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor a'r Gymraeg, Maureen Webber BEM. 
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Adfywio a Thai, Y Cynghorydd Mark Norris. 
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Phobl Ifainc, Y Cynghorydd Sharon Rees. 
  • Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Gareth Caple. 
  • Aelodau o'r Cabinet ar faterion Adnoddau, Cwsmeriaid ac Ynni (trefniant rhannu swydd), Y Cynghorydd Tina Leyshon a'r Cynghorydd Ros Davis. 
  • Aelodau o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden (trefniant rhannu swydd), Y Cynghorydd Bob Harris a'r Cynghorydd Scott Emanuel. 
  • Aelodau o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf (trefniant rhannu swydd), Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE a'r Cynghorydd Louisa Addiscott. 

Mae'r Cynghorydd Karen Morgan hefyd wedi'i hail-ethol yn Arweinydd yr Wrthblaid, sef ail grŵp gwleidyddol mwyaf y Cyngor, Plaid Cymru. 

Penodiadau i swyddogaethau allweddol eraill

Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, aeth yr Aelodau Etholedig ati i lenwi nifer o swyddi democrataidd a dinesig pwysig eraill o fewn y Cyngor hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Llywydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Lewis. 
  • Dirprwy Lywyddion y Cyngor, y Cynghorydd Barry Stephens a'r Cynghorydd Sheryl Evans. 
  • Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Emma Watts. 
  • Dirprwy Faer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Gaynor Warren. 

Penodi i Swyddi ar y Pwyllgorau

Mae'r Cyngor Llawn hefyd wedi ethol Aelodau i lenwi swyddi pwysig sy'n ymwneud â Phwyllgorau democrataidd y Cyngor. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Pwyllgor Cynllunio a Datblygu – Y Cynghorydd Ross Williams fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Jayne Smith yn Is-gadeirydd y pwyllgor. 
  • Y Pwyllgor Trwyddedu – y Cynghorydd Adam Fox fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Graham Stacey yn Is-gadeirydd y pwyllgor. 
  • Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – y Cynghorydd Julie Edwards fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Rhys Lewis yn Is-gadeirydd y pwyllgor. 
  • Y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant – y Cynghorydd Sera Evans fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Scott Emanuel yn Is-gadeirydd y pwyllgor. 
  • Y Pwyllgor Craffu -  Gwasanaethau Cymuned – y Cynghorydd Loretta Tomkinson fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Tina Williams yn Is-gadeirydd y pwyllgor. 
  • Y Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Ffyniant a Gwasanaethau Rheng Flaen - y Cynghorydd Craig Middle fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Wyn Hughes yn Is-gadeirydd y pwyllgor. 
  • Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd – y Cynghorydd Will Jones fydd y Cadeirydd, gyda'r Cynghorydd Maureen Webber BEM yn Is-gadeirydd y pwyllgor. 
  • Pwyllgor Apeliadau – Y Cynghorydd Jayne Brencher fydd y Cadeirydd. 
  • Pwyllgor Pensiynau RhCT – Y Cynghorydd Jayne Smith fydd y Cadeirydd.
Wedi ei bostio ar 30/04/2026