Cafodd carfan Gwnewch Newid yn Rhondda Cynon Taf ei chydnabod yn ddiweddar yng ngwobrau blynyddol Granicus, gan ennill Gwobr Ymddiriedaeth a Thryloywder am ei llwyfan ymgysylltu gynhwysol a dwyieithog, sy'n rhoi llais dinasyddion wrth wraidd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud.
Cafodd y wobr genedlaethol, sy'n uchel ei pharch, ei chyflwyno i Gydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf (CYBI RhCT) ar 16 Ebrill yn ninas Birmingham, yn rhan o Wobrau Llywodraeth Digidol y DU 2026. Mae'r rhain yn dathlu sefydliadau sector cyhoeddus sy'n darparu gwelliannau mesuradwy o ran tryloywder, ymgysylltiad a darpariaeth gwasanaethau drwy arloesedd digidol.
Mae'r CYBI wedi'i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, ac yn cael ei arwain gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n dod â phartneriaid at ei gilydd o Brifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Interlink RhCT ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ier mwyn bwrw golwg ar sut mae profiad bywyd trigolion, yn ogystal ag ymchwil a thystiolaeth, yn gallu helpu i greu dyfodol iachach i bawb a gwella gwasanaethau lleol.
Mae categori'r Wobr Ymddiriedaeth a Thryloywder yn cydnabod sefydliadau sy'n defnyddio dulliau digidol er mwyn magu hyder ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â bod yn agored ac yn atebol. Cafodd CYBI RhCT ei ddewis am ei effaith arddangosadwy a'i ymrwymiad i dryloywder. Roedd y beirniaid wedi canmol y prosiect am ei ddefnydd arloesol o adnoddau digidol er mwyn sicrhau bod cymunedau yn cyflawni swyddogaeth ddylanwadol o ran llywio penderfyniadau sy'n cael effaith ar eu hiechyd a'u lles yn y dyfodol.
Mae'r porth digidol yn caniatáu i ddefnyddwyr ddysgu rhagor, cymryd rhan mewn cyrsiau a gweithdai, ymateb i arolygon, cwblhau cwisiau a chymryd rhan uniongyrchol er mwyn helpu i 'Wneud Newid' ar gyfer trigolion a chenedlaethau'r dyfodol yn Rhondda Cynon Taf.
Trwy lwyfan Gwnewch Newid yn Rhondda Cynon Taf, mae trigolion wedi rhannu eu profiadau bywyd mewn perthynas â phenderfynyddion ehangach iechyd ac wedi gweithio ar y cyd â swyddogion y Cyngor, ymchwilwyr, a'r rheiny sy'n llunio penderfyniadau. Mae aelodau'r gymuned bellach yn cael eu cynnwys yn aelodau sy'n gallu pleidleisio ar baneli recriwtio a chyd-ddylunio polisïau a mentrau - gan helpu i lunio penderfyniadau'r Cyngor ar sail mewnwelediadau personol yn ogystal ag ymchwil a data.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
"Mae'r wobr yma yn anrhydeddu ein hymrwymiad i fod yn agored, yn dryloyw, a chael ein harwain gan y gymuned. Am ein bod ni'n rhoi profiad bywyd wrth wraidd ein proses llunio penderfyniadau, rydyn ni'n adeiladu ymddiriedaeth gyda'n trigolion ac yn sicrhau bod polisïau sy'n cael effaith ar iechyd a lles yn cael eu llywio gan y bobl sy'n wynebu'r materion yma bob dydd. Mae Gwnewch Newid yn Rhondda Cynon Taf yn dangos sut mae modd i lywodraeth leol ddefnyddio adnoddau digidol er mwyn gweithio mewn ffordd newydd - gan fynd y tu hwnt i ymgynghoriadau a chyfleoedd i roi adborth, a sicrhau bod trigolion yn bartneriaid gweithredol wrth ffurfio blaenoriaethau yn y lle cyntaf."
Mae mwy na 100 o swyddogion y Cyngor wedi cael eu hyfforddi er mwyn ymgorffori dull sy'n cael ei lywio gan dystiolaeth ar draws ein gwasanaethau. Mae'r model yma bellach yn cael ei ail-greu gan awdurdodau lleol eraill ledled Cymru a'r DU, gan arddangos ei effaith a'r modd y gellid ei ymaddasu.
Meddai Zoe Lancelott, Pennaeth Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
"Mae Gwnewch Newid yn Rhondda Cynon Taf yn helpu cymunedau i rannu eu profiadau bywyd mewn perthynas â phenderfynyddion ehangach iechyd mewn ffyrdd syml a hygyrch, gan sicrhau bod eu mewnwelediadau yn cael eu defnyddio yn yr un modd ag ymchwil a data er mwyn llywio penderfyniadau mwy gwybodus a theg ledled Cyngor Rhondda Cynon Taf.
"Trwy adeiladu ymddiriedaeth, gwella tryloywder, ac ymgorffori llais y gymuned yn rhan o'r ffordd rydyn ni'n gweithio, mae'r fenter wedi newid ein diwylliant llunio polisïau yn Rhondda Cynon Taf yn barod, ac mae bellach yn dylanwadu ar arfer ledled Cymru a'r DU."
Mae llwyddiant CYBI RhCT yn y gwobrau yn adlewyrchu ein huchelgais i weithio ar y cyd â thrigolion, gan sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu llywio gan dystiolaeth, profiad a mewnwelediad i'r gymuned, ac yn brawf fod trawsnewidiad digidol, ymarferol a mesuradwy, yn digwydd ar bob lefel o lywodraeth ledled y DU.
Meddai Ian Roberts, Rheolwr-Gyfarwyddwr Granicus yn y DU:
"Bob blwyddyn, rydyn ni'n gweld uchelgais, creadigrwydd, ac ymrwymiad carfanau o'r sector cyhoeddus ledled y DU. Mae'r enillwyr eleni yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn ni'n defnyddio arloesedd digidol at ddiben penodol. Maen nhw'n gwella sut mae dinasyddion yn ymgysylltu â gwasanaethau ac yn adeiladu llywodraeth fwy tryloyw ac sy'n fwy ymatebol. Rydyn ni'n falch o gydnabod eu cyflawniadau."
I ddysgu rhagor am waith carfan CYBI RhCT a'i llwyddiant yng Ngwobrau Granicus, ewch i: https://gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk/mae-gwnewch-newid-yn-rhct-yn-ennill-gwobr-genedlaethol-ddibynadwyedd-a-thryloywder
Wedi ei bostio ar 30/04/2026